Ailddychmygu Llandysul a Phont-Tyweli

Sut gall adfywio dan arweiniad y gymuned gryfhau cynaliadwyedd cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol y dref ac adlewyrchu angen ac uchelgais y bobl leol yr un pryd?

Gan Gemma Jones (Llandysul a Phont-tyweli Ymlaen)

Crynodeb Gweithredol

Mae’r ymchwil gymunedol yma yn edrych ar sut y gall Llandysul a Phont-tyweli ddod yn lleoedd mwy cysylltiedig, bywiog a gwydn i fyw, gweithio ac ymweld â nhw. Daeth yr ymgynghoriad â thystiolaeth ynghyd o arolygon, grwpiau ffocws, digwyddiadau cymunedol a sgyrsiau anffurfiol, gyda’r cyfranogwyr yn cyfrannu yn Gymraeg a Saesneg. Mae neges glir yn dod i’r amlwg o’r canfyddiadau: mae’r bobl leol yn gofidio’n fawr am ddyfodol yr ardal ac yn awyddus i’r adfywio adeiladu ar y cryfderau presennol yn hytrach na’u disodli.

Ar draws yr ymchwil, byddai’r cyfranogwyr yn disgrifio Llandysul a Phont-tyweli yn gyson fel lle cyfeillgar a chroesawgar, gydag ysbryd cymunedol cryf ac asedau cyfoethog Cymraeg, diwylliannol, hanesyddol a naturiol. Nodwyd Calon Tysul, Afon Teifi, Paddlers, Ffab, busnesau annibynnol lleol, sefydliadau cymunedol, cyfleusterau chwaraeon, gweithgareddau celfyddydol, mannau ffydd a mannau gwyrdd i gyd fel asedau cymunedol gwerthfawr. Mae’r cryfderau yma yn sylfaen gadarn ar gyfer adfywio yn y dyfodol.

Er hynny, mae’r canfyddiadau hefyd yn nodi pryderon clir sy’n codi dro ar ôl tro. Cyfathrebu oedd un o’r materion mwyaf cyson a godwyd: mae llawer o weithgareddau, gwasanaethau a chyfleoedd eisoes yn bodoli, ond nid yw pobl bob amser yn ymwybodol ohonyn nhw. Galwodd y cyfranogwyr am ddull mwy cydgysylltiedig o rannu gwybodaeth, gan gynnwys gwell hyrwyddo ar ddigwyddiadau, clybiau, cyfleoedd gwirfoddoli, gwasanaethau a busnesau lleol.

Roedd bywiogrwydd canol y dref yn thema bwysig arall. Cododd y cyfranogwyr bryderon am golli siopau, banciau, gwasanaethau a niferoedd ymwelwyr, gan gysylltu’r materion yma yn aml â thaliadau parcio, cyfyngiadau trafnidiaeth a’r angen i gefnogi busnesau lleol. Cafodd parcio ei ddisgrifio dro ar ôl tro fel rhwystr sy’n atal pobl rhag stopio, siopa, dod i weithgareddau neu ddefnyddio gwasanaethau lleol.

Roedd ymatebion y bobl ifanc yn dangos awydd cryf am fannau mwy anffurfiol i gyfarfod, mwy o weithgareddau, gwell opsiynau hamdden a mwy o gyfraniad at lunio dyfodol y dref. Yn bwysig ddigon, roedd y bobl ifanc nid yn unig yn gofyn am fwy o glybiau wedi’u trefnu: roedd ar lawer eisiau mannau diogel, croesawgar a hyblyg lle gallen nhw dreulio amser gyda ffrindiau heb orfod ymrwymo i sesiynau strwythuredig.

Cafodd trafnidiaeth a hygyrchedd eu codi ar draws sawl grŵp, yn enwedig o ran trigolion hŷn, pobl ifanc, busnesau, digwyddiadau a phobl heb gar. Bernid bod gwell trafnidiaeth gyhoeddus, mynediad haws i weithgareddau cymunedol a pharcio mwy fforddiadwy yn hanfodol ar gyfer cynhwysiant a chyfranogiad.

Roedd y Gymraeg, hanes lleol, traddodiadau, cerddoriaeth, celfyddydau a threftadaeth hefyd yn ganolog i’r canfyddiadau. Roedd y cyfranogwyr am i’r asedau yma gael eu diogelu a’u dathlu, a sicrhau hefyd fod newydd-ddyfodiaid sy’n dysgu’r iaith, pobl ddi-Gymraeg a phobl o wahanol genedlaethau yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u cynnwys.

Mae’r canfyddiadau’n nodi sawl blaenoriaeth ymarferol: datblygu system gyfathrebu gymunedol ar y cyd, cefnogi busnesau lleol a niferoedd yr ymwelwyr yng nghanol y dref, adolygu rhwystrau parcio a thrafnidiaeth, darparu mwy o gyfleoedd anffurfiol i bobl ifanc, gwarchod y Gymraeg a’r dreftadaeth, gwneud gwell defnydd o adeiladau cymunedol, a sicrhau bod adfywio yn y dyfodol yn cael ei ddatblygu ar y cyd yn hytrach na thrwy wneud penderfyniadau o’r brig i lawr.

Ar y cyfan, mae’r ymgynghoriad yn dangos bod gan Landysul a Phont-tyweli sylfeini cymunedol cryf yn barod. Yr her yw nid creu ysbryd cymunedol o ddim byd, ond cryfhau cysylltiadau rhwng pobl, sefydliadau, busnesau a mannau. Gan hynny, dylai adfywio yn y dyfodol ganolbwyntio ar wneud yr asedau presennol yn fwy gweladwy, hygyrch a chynaliadwy, a sicrhau mai’r bobl leol sy’n dal i arwain y sgwrs am ddyfodol eu tref.

Mae Llandysul a Phont-tyweli Ymlaen yn bwriadu rhannu’r adroddiad yma gyda’r Cynghorau Tref a Sir fel y gall y canfyddiadau helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol, gan gynnwys ceisiadau am gyllid a chyfleoedd adfywio i’r ardal. Y bwriad yw sicrhau bod y lleisiau, y profiadau a’r blaenoriaethau a gasglwyd drwy’r ymgynghoriad yn cael eu rhannu lle gallan nhw ategu camau cadarnhaol ar gyfer Llandysul a Phont-tyweli.
Y neges gryfaf o’r canfyddiadau yw bod y bobl leol yn gofidio’n fawr am ddyfodol yr ardal ac yn awyddus i’r adfywio adeiladu ar y cryfderau presennol yn hytrach na’u disodli.

Mae’n amhosibl i unrhyw un o’r syniadau yma gael ei gyflawni gan un sefydliad yn unig. Er hynny, drwy weithio ar y cyd ac adeiladu ar y brwdfrydedd sydd eisoes i’w gael yn Llandysul a Phont-tyweli, mae’r argymhellion yma yn realistig ac yn gyraeddadwy. Mae’r ymgynghoriad wedi dangos bod yna ewyllys da sylweddol yn y gymuned yn barod. Yr her nawr yw harneisio’r egni yma a’i droi’n newid parhaol, cadarnhaol. Mae Llandysul a Phont-tyweli Ymlaen yn edrych ymlaen at gefnogi’r gwaith.

Lawrlwythwch yr adroddiad Lleisiau Llandysul (PDF)



Ynglŷn ag Ymlaen Llandysul a Phont-Tyweli a’r prosiect adfywio trefol



Nodau ac Amcanion

  • Hoffem i’r prosiect ymchwil hwn uno cymuned Llandysul a Pont-Tyweli drwy wrando’n ofalus ar bobl o bob oedran, cefndir a chymuned, a sicrhau bod eu profiadau, eu syniadau a’u blaenoriaethau yn cael eu hadlewyrchu’n glir mewn cynlluniau’r dyfodol. Mae’n archwilio bywyd bob dydd yng nghanol y dref, y Gymraeg a diwylliant, llesiant, a ffyrdd ymarferol o ddod â bywyd newydd i ofodau sydd heb eu defnyddio’n llawn.
  • Dewiswyd y prosiect oherwydd ei ffocws cryf ar le a’i ymrwymiad i roi lleisiau’r gymuned wrth galon adfywio.
  • Rydym yn bwriadu cynnal 8 digwyddiad hwylusedig unigryw er mwyn casglu ystod eang o wybodaeth gan sbectrwm eang o bobl yn yr ardal. Y syniad yw dogfennu dyheadau, pryderon, a’r hyn yr hoffai pobl ei weld yn Llandysul dros y 10–20 mlynedd nesaf.
  • Rydym hefyd am adael etifeddiaeth, gan sicrhau bod y wybodaeth ar gael mewn ffyrdd hygyrch i’r gymuned, boed hynny drwy fideos, podlediadau neu ddeunyddiau eraill a grëir ar hyd y daith.
  • Rydym yn mawr obeithio y bydd y broses hon yn gosod y prosiect hwn ar wahân drwy ei dull nodedig, ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi i gyd a chlywed eich barn.