Croeso i Landysul a Phont-Tyweli


Llandysul yw'r dref fwyaf deheuol yng Ngheredigion, ag Afon Teifi sy'n ffurfio ffin ddeheuol. Ar y lan gyferbyn, Pont-Tyweli yw pentrefi mwyaf gogleddol Sir Gaerfyrddin.. Er mae ffin y Sir sydd yn gwahanu ddau anheddiad, yr afon Teifi sydd yn ymuno nhw fel un gymuned.


Mae Llandysul a Phont-Tyweli yng Nghalon Dyffryn Teifi, ac yn enwog ar gyfer pysgota, chwaraeon dŵr, ac ar gyfer cerdded. Drebyniodd Llandysul a Phont-Tyweli statws Croeso i Gerddwyr yn 2009. Ceir gwestai, llefydd gwely a brecwast a bythynod hunanddarpar yn lleol ac o amgylch Llandysul. Yr ydym o fewn cyrraedd hawdd i'r traethau Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.


Mae hon yn gymuned brysur. Sbiwch ar Be’ sy’ mlaen, ac os ydych yn trefnu digwyddiad, beth am ei ychwanegu at y dudalen Be’ sy’ mlaen?




 view of Llandysul

Be' sy' mlan?

29 Ion 2025:

History Society Meeting

Darllen mwy...

30 Ion 2025:

Clwb Lego

Darllen mwy...

1 Chw 2025:

Gweithdai am ddim gyda Dysgu Bro

Darllen mwy...

1 Chw 2025:

Ysgol Tregroes Dyddiadur Ionawr - Mawrth 2025

Darllen mwy...

2 Chw 2025:

Taith Gerdded Cestyll a Rhaeadrau Newid i'r Dyddiad

Darllen mwy...



Siopau a Busnesau

Mae ein stryd fawr yn llawer tawelach nag yr arferai fod. Fodd bynnag, mae gennym gasgliad gwych o siopau diddorol, caffis, crefftwyr, a busnesau sy'n hanfodol i'n heconomi leol. Gweler y cyfeirlyfr o siopau a busnesau. Prynwch yn lleol! Os hoffech i'ch busnes ymddangos ar y wefan, ewch i'r tudalen Siopau a Busnesau.

Bod yn rhan o'r Gymuned

Mae ein cymuned yn weithgar iawn a gallwch ymuno â gwahanol glybiau, a chymdeithasau, cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau chwaraeon, ymuno â grwpiau celf, a grwpiau canu.



Gwirfoddoli

Os oes gennych amser rhydd ac eisiau bod yn rhan annatod o'r gymuned, mae digon o gyfleoedd i wirfoddoli i helpu gydag unrhyw beth o'r carnifal blynyddol i stiwardio yn digwyddiadau, i yrru'r bws cymunedol. Mae yna rywbeth i'w gael i bob oedran a gallu. Cysylltwch â Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen am fwy o wybodaeth. Os hoffech i'ch sefydliad ymddangos ar y wefan, ewch i'r ffurflen gyswllt.