Mae gan Llandysul a Phont-Tyweli a'r ardal gyfagos rwydwaith da o lwybrau sy'n cwmpasu amrywiaeth o olygfeydd a lefelau anhawster, ac mae hynny'n dal yn gyfrinach dda.
Mae Llandysul a Phont-Tyweli wedi arwain y ffordd yng Ngheredigion wrth gael statws Croeso i Gerddwyr yn 2009. Roedd hefyd yn un o'r cyntaf yng Nghymru i gyflawni'r statws hwnnw.
Rhan bwysig o'r aelodaeth yw ymrwymiad i gadw llwybrau lleol ar agor, sicrhau bod cerddwyr yn cael croeso mewn busnesau lleol, a hyrwyddo cerdded yn yr ardal.
Fel rhan o hyn, mae rhaglen o deithiau tywys misol yn ogystal â gwybodaeth am lwybrau lleol eraill, yn rhai byr ac yn rhai mwy heriol. Mae rhai o'r teithiau hefyd yn arbennig o addas i deuluoedd. Mae croeso i bawb ymuno â ni ar y teithiau hyn, ond dylai plant fod yng nghwmni oedolyn.
Bob blwyddyn rydym yn cynnal Penwythnos Gerdded Llandysul a Phont-Tyweli sydd fel arfer yn cynnwys teithiau cerdded yn ein dyffrynnoedd afonydd, mewn coedwigaeth, archwilio safleoedd hanesyddol ac ymhellach i ffwrdd i Lwybr Arfordir Cymru.
Teithiau Llandysul Mae Croeso i Gerddwyr Llandysul a Phont-Tyweli wedi cyhoeddi llyfryn o wyth llwybr cylchol yn a'r cyffiniau. Gallwch lawrlwytho Teithiau Llandysul o'r wefan hon.
Rydym yn casglu eich cyfeiriad e-bost a'ch enw i anfon e-byst atoch am ein gweithgareddau. | We collect your email address and name to send you emails about our activities.
Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen yn nhroedyn ein e-byst. I gael gwybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. | You can unsubscribe at any time by clicking the link in the footer of our emails. For information about our privacy practices, please visit our website.
We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices.
Mae Croeso i Gerddwyr Llandysul a Phont-Tyweli yn annog pawb sy’n ymuno â cherdded grŵp i gario cerdyn *Mewn Achos o Argyfwng*. Gallai achub eich bywyd — neu fywyd rhywun arall. Cofnodwch fanylion cyswllt, meddyginiaethau ac alergeddau..
Taith Dyffryn Teifi- Llwybr unigryw o dirweddau amrywiol yn dilyn Afon Teifi o’i tharddiad ym Mhyllau Teifi ym Mynyddoedd Cambria
Croeso i Gerddwyr- Trefi a Phentrefi gyda rhywbeth arbennig i'w gynnig i gerddwyr
Link to The Countryside Code: advice for countryside visitors
Cerddwyr Cylch Teifi - Cymraeg yw iaith y teithiau cerdded hyn - addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Traveline Cymru - gwybodaeth trafnidiaeth cyhoeddus
The Llandysul and Pont Tyweli website cannot be held responsible for external websites.