Ers 45 mlynedd, mae Papur Bro Dyffryn Teifi “Y Garthen” wedi bod yn rhannu newyddion, straeon a llwyddiannau ein cymunedau. Ers i'r rhifyn cyntaf gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 1981, mae miloedd o bobl leol wedi cyfrannu erthyglau, lluniau a gwybodaeth, gan helpu i greu cofnod gwerthfawr o fywyd yn Nyffryn Teifi.
I ddathlu'r garreg filltir arbennig hon, byddem yn falch iawn i’ch croesawu, i ymuno â ni yn ein noson i ddathlu’r 45 mlynedd,
ar Nos Wener, 16 Hydref 2026 yng Ngwesty’r Porth, Llandysul 7yh. Croeso i bawb!
Bydd y noson yn cynnwys cinio a sgwrs gan ein gwestai arbennig, Fflur Dafydd, a chyfle i ddathlu'r gwirfoddolwyr, y cyfranwyr a'r mudiadau sydd wedi gwneud Y Garthen yn bosibl dros y 45 mlynedd diwethaf.
Bydd manylion i sut i archebu lle yn cael eu cyhoeddi yn fuan iawn.
