Penwythnos Gerdded Llandysul a Phont-Tyweli

Penwythnos Cerdded Llandysul a Phont-Tyweli 2025

Medi, Dydd Gwener 26ain - Dydd Sul 28ain.
Bydd manylion yn cael eu cyhoeddi yn ystod Gwanwyn 2025


2024

Diolch i bawb a ymunodd â ni ar gyfer Penwythnos Cerdded Llandysul a Phont-Tyweli 2024.
Daeth dros 100 o gerddwyr  dros y penwythnos, ar cyfle i fwynhau bwyd, diod, hanes a cherddoriaeth ar hyd y daith, gallwn ddweud bod Penwythnos Cerdded Llandysul a Phont-Tyweli wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Gobeithio bod gennych  atgofion gwych o’r tridiau o gerdded  yn Nyffryn Teifi ac ar hyd yr arfordir.
Mae’r Penwythnos Cerdded yn ddigwyddiad cymunedol a hoffem ddiolch i bawb a fu yn helpu a chefnogi’r   digwyddiad:

  • Ein  holl arweinwyr am wirfoddoli i arwain y teithiau ac  am ddewis llwybrau diddorol a heriol.
  • Cymdeithas Hanes Lleol Llandysul a’r Fro
  • Eglwys Sant Tysul
  • Y Porth, Llandysul
  • Caws Teifi / Da Mhile
  • Gwarcefel Arms, Prengwyn
  • The Leeky Barrel Welsh Bistro & Shop, Henllan
  • Y Daffodil, Penrhiwllan
  • Y Ffynnon
  • Backtrax
  • Beth Davies
  • Cyngor Cymuned Llandysul am eu cefnogaeth.
  • Padlwyr Llandysul am ganiatáu i ni ddefnyddio eu maes parcio.
  • Dolen Teifi ar gyfer trafnidiaeth a'u gyrwyr gwirfoddol.
  • Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen am helpu gyda threfnu'r penwythnos.

A fyddech cystal â chario cerdyn  "Rhag ofn y bydd  argyfwng" ar bob taith gerdded.

Dilyn o dolen am wybodaeth am Y Cod Cefn Gwlad: cyngor i’r rhai sy’n ymweld â chefn gwlad