Croeso i Landysul a Phont-Tyweli
Llandysul yw'r dref fwyaf deheuol yng Ngheredigion, ag Afon Teifi sy'n ffurfio ffin ddeheuol. Ar y lan gyferbyn, Pont-Tyweli yw pentrefi mwyaf gogleddol Sir Gaerfyrddin.. Er mae ffin y Sir sydd yn gwahanu ddau anheddiad, yr afon Teifi sydd yn ymuno nhw fel un gymuned.
Ymweliad â Llandysul a Phont-Tyweli
Mae Llandysul a Phont-Tyweli wrth galon Dyffryn Teifi,ac yn enwog ar gyfer pysgota, chwaraeon dŵr, ac ar gyfer cerdded. Drebyniodd Llandysul a Phont-Tyweli statws Croeso i Gerddwyr yn 2009. Ceir gwestai, llefydd gwely a brecwast a bythynod hunanddarpar yn lleol ac o amgylch Llandysul. Yr ydym o fewn cyrraedd hawdd i'r traethau Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Busnesau Llandysul a Phont-Tyweli
Mae ein stryd fawr yn llawer tawelach nag yr arferai fod. Fodd bynnag, mae gennym gasgliad gwych o siopau diddorol, caffis, crefftwyr, a busnesau sy'n hanfodol i'n heconomi leol. Gweler y cyfeirlyfr o siopau a busnesau. Prynwch yn lleol!
Os hoffech i'ch busnes ymddangos ar y wefan, ewch i'r Ffurflen Gyswllt Cyfeiriadur Busnes. Mae Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen ynghyd ar Grŵp Busnes yn croesawu holl aelodau ein cymuned fusnes ac ar hyn o bryd yn cyfarfod ar-lein unwaith y mis ac yn rhannu amser busnes gydag amser gwirfoddoli i wneud newid cadarnhaol i'n cymuned. Am fwy o wybodaeth ebostio info@dolenteifi.org.uk.
Bod yn rhan o'r Gymuned
Mae'r gymuned yn weithgar iawn a gallwch ymuno â gwahanol glybiau, a chymdeithasau, cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau chwaraeon, ymuno â grwpiau celf, a grwpiau canu.
Gwirfoddoli
Os oes gennych amser rhydd ac eisiau bod yn rhan annatod o'r gymuned, mae digon o gyfleoedd i wirfoddoli i helpu gydag unrhyw beth o'r carnifal blynyddol i stiwardio yn digwyddiadau, i yrru'r bws cymunedol. Mae yna rywbeth i'w gael i bob oedran a gallu. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Os hoffech i'ch sefydliad ymddangos ar y wefan, ewch i'r ffurflen gyswllt.
Gweithgareddau Ieuenctid
Dyfodol ein cymuned yw ein hieuenctid ac mae llawer o weithgareddau yn y gymuned o Sgowtio i Chwaraeon, yn ogystal â dau glwb ieuenctid. Ein hysgol ni yw Ysgol Bro Teifi sy'n darparu ar gyfer plant o oedran meithrin hyd at Safon Uwch ac fe'i hagorwyd yn 2016. Hwn oedd yr ysgol syth-drwyddo cyfrwng-Cymraeg gyntaf.
Rydym yn falch iawn o'n cymuned, mae'n lle gwych i fyw, i weithio ac i ymweld ag ef.
Be' Sy 'Mlaen?
14/12/2024: Gwyl Coed Nadolig Eglwys Sant Tysul 2024
I'w agor gan Esgob Dorrien Davies
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 14eg am 4yp
17/12/2024: Christmas Film Night at Capel Dewi
"The Holdovers"
Tuesday 17th December, 2024
Doors open at 7.15pm for 7.30pm start
Neuadd yr Eglwys Capel Dewi
22/12/2024: Cytun Llandysul Be sy' mlan?
Dydd Gwener, Hydref 25ain, 10yb-11.30yb: Paned a Sgwrs yn Caffi Ffab, Llandysul
Dydd Sadwrn, Tachwedd 16, 2-3...
15/01/2025: Cymdeithas Cymrodorion Llandysul
Rhaglen Tymor 2024-2025
Nos Fercher, Hydref 16eg 2024
Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yhY Prifardd Dr Aneirin Karadog
Testun: “Bachgen Bach o Bonty”
Llywydd: Mr Philip Ainsworth
Nos Fercher, Tachwedd 20fed 2024
Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7...25/01/2025: Twmpath Dawns
Mae Carnifal Llandysul a Phont-Tyweli yn cyflwyno Noson i ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen
Gyda Dawnswyr Talog
Nos Sadwrn, Ionawr 25ain 2025, 7yh
Neuadd Tysul
I gynnwys cawl a phicau ar y maen...