Cymorth Cyllid

Dyma ddolenni i gefnogi sefydliadau Cymunedol ac i fusnesau

Ceredigion: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Cynnal y Cardi 2025-2026

Yn rhan o ymrwymiad parhaus Cyngor Sir Cereidigion i gefnogi busnesau a chymunedau i ddarparu atebion cynaliadwy ond arloesol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n wynebu ardaloedd gwledig, mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu Cronfa Cynnal y Cardi a ariennir gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae dwy gronfa sy’n cynnig cyfleoedd cyllid sy’n agor dydd Mercher, 18 Mehefin 2025.ac yn gau ar Ddydd Mawrth Medi 30ain 2025.

Gweler y wefan am fanylion llawn: https://www.ceredigion.gov.uk/busnes/cyllid-a-grantiau/cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du-cynnal-y-cardi-2025-2026/


Cyllid Cyngor Sir Gaerfyrddin

Mae nifer o grantiau er mwyn helpu busnesau presennol gyda thwf ac i helpu busnesau newydd i gychwyn arni.. Gweler y wefan Cyngor Sir Gar am fanylion: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/cyllid/


Delineate - yr Ymrwymiad Cymunedol

Mae’r fenter wedi’i chreu i gefnogi prosiectau lleol, hyrwyddo gwirfoddoli a chodi arian ar gyfer achosion da yn lleol ac yn fyd-eang. Yn lleol, mae grant cymunedol chwarterol ar gael i sefydliadau ac unigolion yng Ngheredigion a’r ardaloedd cyfagos. Nod y grant yw cefnogi mentrau lleol sy’n adlewyrchu thema Delineate. Gweler eu wefan am fanylion llawn: https://delineate.ai/community/