Agraffwyd Croeso i Gerddwyr Llandysul a Phont-Tyweli llyfryn o'r enw "Teithiau Llandysul", cyfres o deithiau cerdded o gwmpas Llandysul a Phont-Tyweli. Mae'r llyfryn bellach allan o brint ond gallwch lawrlwytho ac argraffu pob taith gerdded ar y dudalen hon.
Y map Arolwg Ordnans ar gyfer ardal y llwybrau yw Explorer 185. Mapiau darluniadol yn unig, a dylid eu defnyddio ochr yn ochr â’r mapiau priodol a chwmpawd.
Gradd y deithiau
A – Egnïol: Medru cerdded ar dir garw am hyd at 6 awr gyda sach deithio ysgafn.
B – Cymedrol: Medru cerdded ar dir garw am hyd at 4 awr gyda sach deithio ysgafn.
C – Hawdd: Medru cerdded ar dir garw am hyd at 2 awr gyda sach deithio ysgafn.
Y Côd Cefn Gwlad
Parchu–Gwarchod–Mwynhau
• Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch ymlaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel yr ydych chi’n eu cael nhw
• Gwarchodwch blanhigion ac anifeiliaid drwy fynd â’ch sbwriel adref gyda chi
• Cadwch gŵn dan reolaeth
• Meddyliwch am bobl eraill
Dilynwch y Côd Cefn Gwlad lle bynnag yr ewch chi. Gallwch fwynhau cefn gwlad i’r eithaf a byddwch hefyd yn helpu gwarchod cefn gwlad nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Taith Hanesyddol Tref Llandysul
Mae’r daith yn mynd mewn cylch o amgylch y dref gyda darn byr ar y dechrau sy’n dringo rhiw. Mae’r bensaernïaeth o oes Edward a Fictoria ynghyd â’r siopau bychain niferus yn ei gwneud yn ffordd ddelfrydol o fynd am dro bach drwy hanes Llandysul. Hefyd, mae’n rhoi golygfeydd da o’r wlad sydd o gwmpas. Dylid cadw cŵn ar dennyn. Nid oes angen esgidiau cryfion.
Pellter: 1.1km (1.8milltir). Tua 1 awr. Gradd: C
Taith Cefn Gwlad a Choetir Coed y Foel
Cyn pen byr o dro, cludir y cerddwyr o dref brysur Llandysul i dir amaeth agored ynghyd â heddwch a llonyddwch coetir Coed Cadw. Mae’r golygfeydd o ben y bryniau yn syfrdanol ac mae’r daith yn dod i ben wrth ymyl yr afon Teifi brydferth. Mae’r llwybrau weithiau yn arw ac mae rhai rhiwiau i’w dringo. Argymhellir esgidiau cerdded a socasau ar ôl glaw trwm. Mae yno sticlau, ond gwyliwch am ddiweddariadau wrth i giatiau gael eu gosod yn eu lle. Dylid cadw cŵn ar dennyn ar y darnau sydd ar dir amaeth.
Pellter: 9km (5.6milltir) Tua 3 awr. Gradd: B
Taith Dolen Teifi
Mae’r daith syml a phrydferth hon yn un y gellir ei cherdded gydol y flwyddyn ac sy’n eich tywys o ganol Llandysul, ar hyd lonydd gwledig, drwy goetir hynafol ac yn olaf ar hyd glannau’r Afon Teifi. Mae’r rhan fwyaf o’r daith ar hyd lonydd gwledig, ond mae cryn dipyn o ddringo rhiwiau ac mae gradd y daith gerdded yn adlewyrchu hynny. Serch hynny, mae’r rhiwiau yn gwobrwyo’r cerddwr ar ffurf golygfeydd hyfryd dros Ddyffryn Clettwr. Dylid cadw cwˆ n ar dennyn. Dylid gwisgo esgidiau sy’n addas ar gyfer lonydd gwledig gan fod glan yr afon heb lawer o ddŵr fel arfer.
Pellter: 5.63km (3.5milltir). Tua 2.5 awr. Gradd B.
Taith Gogledd Clettwr
Mae’r daith gerdded fer a chylchog hon yn eich tywys o Eglwys Dewi Sant hyd at Gapel Dewi, tua’r gogledd drwy goetir cymysg sydd wrth ymyl yr Afon Clettwr ac yn ôl i Gapel Dewi. Mae’n daith dawel a dymunol gyda golygfeydd amrywiol a digonedd o fywyd gwyllt. Argymhellir esgidiau cerdded a socasau ar ôl glaw trwm. Dylid cadw cŵn ar dennyn.
Pellter: 3.2km (2 milltir). Tua 1 awr. Gradd C.
Taith Dyffryn Clettwr
Mae’r daith gerdded brydferth hon yn eich tywys o Eglwys Dewi Sant hyd at Gapel Dewi, tua’r de ar hyd Dyffryn Clettwr ac yn rhoi golygfeydd hyfryd o’r tirwedd o gwmpas. Argymhellir esgidiau cerdded a socasau ar ôl glaw trwm. Dylid cadw cŵn ar dennyn.
Pellter: 4.8k (3 milltir). Tua 2 awr. Gradd C.
Cylchdaith Coedwig Coed y Foel i Gapel Dewi
Mae’r daith gerdded hon yn eich tywys drwy heddwch a thawelwch Coedwig Coed y Foel, i dir amaeth agored, heibio i’r Afon Cletwr, drwy bentref bach cysglyd Capel Dewi ac ar hyd lonydd gwledig. Mae’r daith mewn lleoliad tawel a phrydferth gyda olygfeydd amrywiol a phleserus sy’n fendigedig o’r mannau uchaf. Dylid cadw cŵn ar dennyn ar y darnau sy’n mynd drwy dir amaeth.
Pellter: 13.1km (8 milltir). Tua 4.5 awr. Gradd A/B.
Taith Gogledd Llandysul/Pont-Tyweli
Gellir gwneud y daith hon gydol y flwyddyn ac mae’n eich tywys drwy dir parc, lonydd gwledig, ar draws tir amaeth agored sydd â golygfeydd braf ar draws Llandysul, Dyffryn Clettwr a bryniau Sir Gaerfyrddin. Mae rhiwiau serth i’w dringo ar rai rhannau o’r daith. Argymhellir esgidiau cerdded a socasau ar ôl glaw trwm. Dylid cadw cŵn ar dennyn.
Pellter: 6.5km (4 milltir). Tua 2.5-3 awr. Gradd C.
Taith De Llandysul/Pont-Tyweli
Mae’r daith gerdded hon yn dilyn y rheilffordd segur sydd wrth ymyl yr Afon Tyweli, drwy goetir hudolus, ar hyd lonydd gwledig ac ar draws tir amaeth agored sy’n rhoi golygfeydd braf ar draws y dyffryn i Sir Gaerfyrddin a bryniau Sir Benfro. Mae rhiwiau serth i’w dringo ar rai rhannau o’r daith. Argymhellir esgidiau cerdded a socasau ar ôl glaw trwm. Dylid cadw cŵn ar dennyn.
Pellter: 9km (5.6milltir). Tua 2.5 awr. Gradd B.