Croeso i Landysul a Phont-Tyweli
Ymweliad â Llandysul a Phont-Tyweli
Mae Llandysul a Phont-Tyweli wrth galon Dyffryn Teifi,ac yn enwog ar gyfer pysgota, chwaraeon dŵr, ac ar gyfer cerdded. Drebyniodd Llandysul a Phont-Tyweli statws Croeso i Gerddwyr yn 2009. Ceir gwestai, llefydd gwely a brecwast a bythynod hunanddarpar yn lleol ac o amgylch Llandysul. Yr ydym o fewn cyrraedd hawdd i'r traethau Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Busnesau Llandysul a Phont-Tyweli
Mae ein stryd fawr yn llawer tawelach nag yr arferai fod. Fodd bynnag, mae gennym gasgliad gwych o siopau diddorol, caffis, crefftwyr, a busnesau sy'n hanfodol i'n heconomi leol. Gweler y cyfeirlyfr o siopau a busnesau. Prynwch yn lleol!
Os hoffech i'ch busnes ymddangos ar y wefan, ewch i'r Ffurflen Gyswllt Cyfeiriadur Busnes. Mae Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen ynghyd ar Grŵp Busnes yn croesawu holl aelodau ein cymuned fusnes ac ar hyn o bryd yn cyfarfod ar-lein unwaith y mis ac yn rhannu amser busnes gydag amser gwirfoddoli i wneud newid cadarnhaol i'n cymuned. Am fwy o wybodaeth ebostio info@dolenteifi.org.uk.
Bod yn rhan o'r Gymuned
Mae'r gymuned yn weithgar iawn a gallwch ymuno â gwahanol glybiau, a chymdeithasau, cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau chwaraeon, ymuno â grwpiau celf, a grwpiau canu. Os oes gennych amser rhydd ac eisiau bod yn rhan annatod o'r gymuned, mae digon o gyfleoedd i wirfoddoli i helpu gydag unrhyw beth o'r carnifal blynyddol i stiwardio yn y Triathlon, i yrru'r bws cymunedol. Mae yna rywbeth i'w gael i bob oedran a gallu. Os hoffech i'ch sefydliad ymddangos ar y wefan, ewch i'r ffurflen gyswllt.
Gweithgareddau Ieuenctid
Dyfodol ein cymuned yw ein hieuenctid ac mae llawer o weithgareddau yn y gymuned o Sgowtio i Chwaraeon, yn ogystal â dau glwb ieuenctid. Ein hysgol ni yw Ysgol Bro Teifi sy'n darparu ar gyfer plant o oedran meithrin hyd at Safon Uwch ac fe'i hagorwyd yn 2016. Hwn oedd yr ysgol syth-drwyddo cyfrwng-Cymraeg gyntaf.
Rydym yn falch iawn o'n cymuned, mae'n lle gwych i fyw, i weithio ac i ymweld ag ef.
Be' Sy 'Mlaen?
23/08/2022: Trefnwch apwyntiad i roi gwaed
Mae angen mwy o bobl ar Wasanaeth Gwaed Cymru i gofrestru fel rhoddwyr gwaed i helpu cleifion ledled Cymru...
24/08/2022: Ymgynghoriad Cyhoeddus Llandysul a Phont-Tyweli
Bydd sesiwn yn cael eu cynnal ar y dydd canlynol:
Dydd Mercher 24 Awst 2022, 10am i 1pm a 3pm i 6pm, y Pwerdy, Llandysul/Pont-Tyweli
Mae cymunedau Llandysul, Pont-Tyweli a Llanybydder wedi dioddef nifer o lifogydd trychinebus, gan gynnwys Storm Callum yn 2018 pan yr effeithiwyd ar sawl eiddo preswyl ac eiddo masnachol, a ffyrdd yn cau...
25/08/2022: Bore Coffi yn Neuadd yr Eglwys
Pob bore Iau 9.30-11.30yb
Neuadd Eglwys Llandysul (yr un adeilad Llyfrgell Llandysul).
www.sttysulonline...
01/09/2022: Bore Coffi yn Neuadd yr Eglwys
Pob bore Iau 9.30-11.30yb
Neuadd Eglwys Llandysul (yr un adeilad Llyfrgell Llandysul).
www.sttysulonline...
03/09/2022: Dawns Sioe Llandysul 2022
yn cyflwyno Dafydd Iwan a Baldane
Nos Sadwrn 3ydd o Fedi, 8yh-12yb
Caeau Hengae, Saron, SA44 5DP
Mynediad £10
arian parod yn unig...
Ewch i'r tudalen Be' Sy 'Maen ar gyfer pob digwyddiad
