Llwyrbrau Llandysul logoCroeso i Gerddwyr Llandysul a Phont-Tyweli 

 

Taith Lansio Taith Dyffryn Teifi yn Llandysul

Dydd Sadwrn Rhagfyr 28ain
Taith Gerdded Gylchol Tua 4.5 milltir


Cyfarfod am 10 yb yn Iard Fferm Abercerdin SA44 4PA.
Mae'r daith gerdded yn cychwyn ar lan Afon Teifi ac yna'n troi i fyny drwy'r Coetir a dringo i gopa Bryngaer Pencoed-y-foel. Yna disgyn yn ôl i Abercerdin a gorffen yng Ngwesty'r Porth am Gawl a lluniaeth ysgafn.
Dim tâl am gerdded, ond ffoniwch y Gwesty i gadarnhau'r bwyd. Ffôn: 01559362202.
Croeso i gŵn ar dennyn.
Os cwestiynau cysylltwch â Tom : 07866876741 neu 01559363200

 

 

Taith Dyffryn Teifi - Teifi Valley Trail logo




Taith Dyffryn Teifi

 

Ymunwch â thaith gerdded i ddathlu agoriad Taith Dyffryn Teifi.



2024
19 Hydref : Pontrhydfendigaid & Cors Caron
2 Tachwedd: Llanbedr Pont Steffan 
23 Tachwedd: Llanybydder
28 Rhagfyr: Llandysul
 
2025
25 Ionawr : Castell Newydd Emlyn 
22 Chwefror : Cilgerran
15 Mawrth : Llandudoch   

Dilyn o dolen am wybodaeth am Y Cod Cefn Gwlad: cyngor i’r rhai sy’n ymweld â chefn gwlad

Gwybodaeth

  • Os ydych chi'n teimlo'n sâl, peidiwch â dod, ond rhowch wybod i'r arweinydd cerdded nad ydych yn dod.
  • Cewch wybod mwy am COVID-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/
  • Gall arweinwyr cerdded wrthod derbyn unrhyw gerddwyr yr ystyrir eu bod heb ddigon o gyfarpar.
  • Gall y rhaglen newid mewn amgylchiadau nas rhagwelwyd.
  • Cynghorir cyfranogwyr i drefnu eu hymyswiriant eu hunain i dalu am unrhyw golled, difrod, damwain neu anaf i bobl neu eu heiddo, gan na all Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen dderbyn cyfrifoldeb.
  • A fyddech cystal â chario cerdyn  "Rhag ofn y bydd  argyfwng" ar bob taith gerdded.
  • Diolch am eich cefnogaeth. 

    arrow pointing upwards - click to return to the top of the page