Ailddychmygu Llandysul a Phont-Tyweli

Rydym ni yn Ymlaen yn angerddol dros Landysul a Phont-Tyweli, ac yn bwysicach fyth, dros y bobl. Rydym am helpu’r ardal a’i phobl i ffynnu.

Mae ail-ddychmygu Llandysul fel tref fach gysylltiedig a bywiog yn brosiect dan arweiniad y gymuned sy’n canolbwyntio ar ddod â diwylliant, economi a llesiant ynghyd er mwyn helpu i lunio dyfodol Llandysul a Pont-Tyweli. Daeth y prosiect atom drwy Brifysgol Aberystwyth.

Bydd y prosiect yn cael ei redeg gan ein cydlynydd prosiect, Gemma Jones, a anwyd ac a fagwyd yn lleol ger Betws Ifan hyd at naw oed, ac sydd wedi bod yn lleol i Landysul ers hynny. Gan fod ei phlant ifanc hithau bellach yn cael eu magu yn yr ardal, mae Llandysul wir wedi bod, ac yn parhau i fod, wrth wraidd ei bywyd. Mae hyn yn golygu ei bod yn teimlo’n angerddol dros y prosiect ac yn awyddus i sicrhau ei fod yn cael effaith gadarnhaol.

Mae Llandysul a Pont-Tyweli Ymlaen Cyf yn sefydliad cymunedol wedi’i leoli yn Llandysul. Rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth y DU drwy gronfa Cynnal y Cardi, a’n nod yw galluogi cymuned Llandysul a Phont-Tyweli i gael mynediad at wasanaethau hanfodol a chyfleoedd cymdeithasol.

Byddwn yn cynnal digwyddiadau i chi ddod i rannu eich meddyliau a'ch barn ar sut i gefnogi a llunio dyfodol ein cymuned. Gweler y dudalen Digwyddiadau am y wybodaeth ddiweddaraf.

Os na allwch ddod i ddigwyddiad, mae gennym holiadur i'w lenwi hefyd - nid oes atebion anghywir, dyma gyfle i ni glywed eich llais!

poster asking for people to share their opinions on the future of Llandysul and Pont-Tyweli

Ynglŷn ag Ymlaen Llandysul a Phont-Tyweli a’r prosiect adfywio trefol



Nodau ac Amcanion

  • Hoffem i’r prosiect ymchwil hwn uno cymuned Llandysul a Pont-Tyweli drwy wrando’n ofalus ar bobl o bob oedran, cefndir a chymuned, a sicrhau bod eu profiadau, eu syniadau a’u blaenoriaethau yn cael eu hadlewyrchu’n glir mewn cynlluniau’r dyfodol. Mae’n archwilio bywyd bob dydd yng nghanol y dref, y Gymraeg a diwylliant, llesiant, a ffyrdd ymarferol o ddod â bywyd newydd i ofodau sydd heb eu defnyddio’n llawn.
  • Dewiswyd y prosiect oherwydd ei ffocws cryf ar le a’i ymrwymiad i roi lleisiau’r gymuned wrth galon adfywio.
  • Rydym yn bwriadu cynnal 8 digwyddiad hwylusedig unigryw er mwyn casglu ystod eang o wybodaeth gan sbectrwm eang o bobl yn yr ardal. Y syniad yw dogfennu dyheadau, pryderon, a’r hyn yr hoffai pobl ei weld yn Llandysul dros y 10–20 mlynedd nesaf.
  • Rydym hefyd am adael etifeddiaeth, gan sicrhau bod y wybodaeth ar gael mewn ffyrdd hygyrch i’r gymuned, boed hynny drwy fideos, podlediadau neu ddeunyddiau eraill a grëir ar hyd y daith.
  • Rydym yn mawr obeithio y bydd y broses hon yn gosod y prosiect hwn ar wahân drwy ei dull nodedig, ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi i gyd a chlywed eich barn.