Newyddion

05/12/2025: Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen – Proseict Ailddychmygu Llandysul

Mae Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen yn un o chwech phrosiect yn derbyn cyllid drwy ‘Cronfa Ymchwil a Arweinir gan y Gymuned - Cymru Wledig LPIP Rural Wales’, gyflwynir gan Gyda’n Gilydd dros Newid. Bydd pob grŵp yn derbyn hyd at £20,000 ynghyd â chefnogaeth academaidd wedi’i deilwra i gynnal ymchwil a gynlluniwyd gan y gymuned ar faterion sy’n bwysig yn lleol.


Mae’r rownd hon yn adeiladu ar y galwad flaenorol ar gyfer Ymchwil a Arweinir gan y Gymuned, gan alluogi mwy o gymunedau gwledig i gasglu tystiolaeth, ennill mewnwelediad ac amlinellu camau ymarferol sy’n gysylltiedig â phedair thema’r rhaglen: adeiladu economi adfywiol; cefnogi’r trawsnewid i sero net; adnewyddu diwylliannol; a lles yn y lle.


Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen – Ailddychmygu Llandysul (Llandysul)

Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i sut y gellir cysylltu diwylliant, economi a lles yn well i gefnogi adfywiad Llandysul. Bydd yn archwilio sut mae trigolion yn defnyddio canol y dref, rôl diwylliant Cymreig wrth ysgogi mentergarwch a sut y gall trafnidiaeth, cysylltedd digidol a gofodau cynhwysol gryfhau cyfranogiad. Bydd yr ymchwil yn datblygu sgiliau lleol ac yn darparu tystiolaeth i lunio strategaeth gynhwysol a chynaliadwy ar gyfer dyfodol y dref.


Gweler y wefan ‘Cronfa Ymchwil a Arweinir gan y Gymuned - Cymru Wledig LPIP Rural Wales’ am fanylion llawn.


Cyflwyniad i ymchwil gweithredol a arweinir gan y gymuned

Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales mewn cydweithrediad â Gyda’n Gilydd dros Newid yn cyflwyno cyfres o seminarau ar eich cyfer chi sydd wedi eu cynllunio ar gyfer unrhyw un sydd mewn cymuned neu sy'n gweithio gyda chymunedau a hoffai ddefnyddio ymchwil fel gyfrwng ar gyfer gweithredu.

Mae'r sesiynau ar-lein a’r sesiynau wyneb yn wyneb sydd wedi'u hariannu'n llawn yn gyfle i ddysgu am beth ydy ymchwil gweithredol a arweinir gan y gymuned. I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am rai o’r sgiliau ymchwil sylfaenol, sut i reoli prosiectau a sut y gall cydweithio gyda academyddion a llunwyr polisi ei olygu i'ch cymuned. Gwelery wefan am fanylion llawn ac i archebu lle.