
Mae
Llandysul a Phont Tyweli, sy’n swatio ar lannau’r
afon Teifi, yn dref farchnad fechan a thraddodiadol
sydd wedi cadw ei chymeriad.
Adeiladwyd y dref o gwmpas
yr eglwys hynafol, ac felly mae’n briodol iawn
fod rhan helaeth ohoni bellach yn ardal gadwraeth.
Adeiladwyd y dref ar un o afonydd pysgota gorau Cymru; afon sy’n
enwog am ei heog a’i sewin. Mae hi hefyd yn enwog am ganwio dwr
gwyn.
|
Eglwys St Tysul
|
Mae'r Afon Tyweli yn
llifo i'r Afon Teifi o dan y pont ym Mhont Tyweli.
|
Cyn
dyfodiad trydan, bu dyfroedd gwylltion yr afon Teifi
a’i llednentydd yn gyrru nifer o olwynion dwr
yn yr ardal, ac nid oedd Llandysul yn eithriad. Er
nad oes unrhyw olwynion bellach yn gweithredu’n
fasnachol, gwelir y bu nifer o adeiladau unwaith yn
gweithredu fel melinau.
Mae lleoliad tref Llandysul
yn gyfleus iawn i ymwelwyr fynd i grwydro siroedd
Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gâr a Bannau Brycheiniog.
Mae trefi mwy, megis Aberteifi, Caerfyrddin a Llanbedr
Pont Steffan yr un mor agos.
Yn ogystal â bod yn ganolfan wych i gerddwyr a beicwyr, mae ganddi
hefyd yr holl fanciau mawr ac amrywiaeth cyffrous o siopau ynghyd â marchnad
wartheg a gynhelir pob pythefnos.
Mewn geiriau eraill … mae’n
werth dod yma!
|
I
ben y tudalen |