Taith Coedwig a Trwy Tir Fferm – (Llwybr Oren)

Tua 5 milltir,(Dwy awr a hanner) gweddol hawdd ond angen esgidiau trymion, clwydi ac ambell sticil.

Parcio ym mharc y goedwigaeth ger Faerdre Fawr.

Uchafbwyntiau – Coedwig o goed derw, nant a golygfeydd godidog.

Llandysul – cychwyn o`r maes parcio tua’r dde, heibio Eglwys St Tysul, ac yna Gwesty`r Porth.

Cadw i`r dde gan ddilyn yr afon Teifi, heibio i Abercerdin- hen felin malu grawn, dros bont fechan yr afon Cerdin hyd at fynegbost yn cyfeirio i Gapel Dewi neu dilynwch daith ar hyd glannau’r Afon hyd Abercerdin. Trowch i`r chwith tuag at Llanfair. Dilyn y ffordd hon am ryw hanner milltir nes cyrraedd maes parcio`r Goedwigaeth ar y chwith.

Ymhen draw`r maes parcio, awn drwy`r glwyd a dilyn llwybr hyd waelod y goedwig. Islaw dilyner ffrwd Gwenffrwd, croeser y ffrwd wrth ddilyn y saethau melyn sydd ar y pyst. Deuir maes o law at dir a thyddyn Blaencwmcadifor ar y dde. Dringo’n araf i ben y cwm gan ddilyn yr arwyddion melyn. Yna rhaid dringo dwy sticil a chroesi dau gae i ben uchaf y cwm i ymyl carafán ac adeiladau fferm.

Trowch i`r dde ar hyd lôn lydan. Dilynwch arwyddion llwybr ceffylau drwy gât ar y chwith. Dilynwch y llwybr hyd nes cyrraedd arwydd brown Tir Gofal ar y de. Ewch drwy’r gât a dilynwch yr arwydd drwy’r caeau. Gweler yr olygfa dros Llanfair. Dilynwch i lawr drwy’r caeau gan groesi`r sticil i`r heol, yna troi i`r dde a dychwelyd tua Llandysul.

Map y daith - Taith Coedwig a trwy Tir Fferm

Cliciwch yma i argraffu'r tudalen

Mae’r llwybr cerdded yma wedi cael ei chynhyrchu gan wirfoddolwyr o Grŵp Menter Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen, ac mae yn cynnwys llwybrau cerdded yn Llandysul a’r ardal gyfagos. Am fwy o lwybrau cerdded, gweler:

Cerdded i ben uchaf tref Llandysul
Taith Dolen y Teifi

Mae’r llwybrau cerdded wedi ei chynhyrchu ar daflen “Llwybrau Cerdded Llandysul” gan Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen. Mae taflen debyg wedi ei chynhyrchu gan Cyngor Sir Caerfyrddin, ac mae hon yn cynnwys teithiau sydd yn cychwyn o Bont Tyweli. Gellir cael y taflenni yma o Swyddfa Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen. Am ragor o wybodaeth cysylltwch: info@llandysul-ponttyweli.co.uk



I ben y tudalen

Cau ffenestr