Cerddwch i ben uchaf tref Llandysul

Llynyfran, Dyffryn Teifi, Plas y Dderwen. (Llwybr Porffor)

 Tua 2 filltir. Rhowch 1 awr i’w chwblhau. Mae’r graddiant yn amrywio a gall fod yn llithrig pan fydd yn wlyb.

Trowch i’r de o’r maes parcio gan basio Gwesty’r Porth ar yr ochr dde. Wedyn, bydd y ffordd yn fforchio. Trowch i’r de gan gerdded i fyny’r allt. Croeswch yn syth ar draws y briffordd ar groesfan ac ewch i fyny’r ffordd serth. Trowch i’r de a dilynwch y ffordd darmac ag arni atalfeydd cyflymder. Arhoswch arni nes i chi gyrraedd lôn gerrig ac wedi i chi basio’r t olaf, fe fydd y trywydd yn fforchio. Dilynwch y trywydd ar y chwith ac ewch i fyny lôn werdd, gan anwybyddu’r gât fochyn a dilynwch y llwybr ar yr ochr chwith. Byddwch yn ofalus - gall y graig fod yn llithrig pan fydd y tywydd yn wlyb. Ewch drwy gât fochyn haearn a pharhewch nes i chi gyrraedd y pwynt uchaf. Yma, byddwch yn gadael y lôn drwy gât sinc. Trowch i`r de ar hyd y palmant ac yna i`r de eto gan ddilyn y llwybr gwyrdd tu ôl i`r tai, hyd nes cyrraedd y palmant ar ben y lôn, trowch i`r chwith a dilynwch y llwybr hyd cyrraedd y ffordd fawr. Trowch i`r chwith ar hyd y palmant, heibio cae chwarae’r Ysgol ar y dde, yna croeswch y ffordd nes cyrraedd gât fochyn haearn. Ewch drwy’r gât, dilynwch y llwybr troed drwy gât arall ger adeilad ysgol, ewch at y ffordd. Croeswch yn syth ar ei thraws ac ewch i lawr llwybr cysgodol nes cyrraedd glan yr afon. Yma, cewch weld ceunant yr afon yn Llandysul – canolfan boblogaidd a phrysur ar gyfer canŵio slalom. Dilynwch drywydd arall, gan droi i’r de a cherdded ar hyd yr afon i safle picnic Plas y Dderwen. Yn anffodus, nid yw’n llwybr trwodd. Wrth ddychwelyd i bont Llandysul. Dilynwch y stryd i’r pentref, trowch i’r de ger Tafarn y Cilgwyn, dilynwch y palmant ar yr ochr dde, ar ôl rhyw chwarter milltir, trowch i’r de ac ewch lawr llwybr cul i’r Parc. Ewch ar hyd glan yr afon gan fynd heibio caeau chwarae ar yr ochr chwith a cheir golygfeydd gwych o dir coediog ar yr ochr dde. Dilynwch y llwybr yn erbyn y cloc a dychwelwch at y maes parcio.

Map - Cerddwch i ben ucahg Tref Llandysul

Cliciwch yma i argraffu'r tudalen

Mae’r llwybr cerdded yma wedi cael ei chynhyrchu gan wirfoddolwyr o Grŵp Menter Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen, ac mae yn cynnwys llwybrau cerdded yn Llandysul a’r ardal gyfagos. Am fwy o lwybrau cerdded, gweler:

Taith Coedwig a trwy tir fferm
Taith Dolen y Teifi

Mae’r llwybrau cerdded wedi ei chynhyrchu ar daflen “Llwybrau Cerdded Llandysul” gan Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen. Mae taflen debyg wedi ei chynhyrchu gan Cyngor Sir Caerfyrddin, ac mae hon yn cynnwys teithiau sydd yn cychwyn o Bont Tyweli. Gellir cael y taflenni yma o Swyddfa Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen. Am ragor o wybodaeth cysylltwch: info@llandysul-ponttyweli.co.uk

I ben y tudalen

Cau ffenestr