Taith Dolen y Teifi (Llwybr Brown)

Tua 3 milltir (awr a hanner) Ffordd galed bob cam. Dringo graddol am rhyw hanner milltir ac yna goriwaered am y rhan olaf o`r daith.

Dechrau`r daith ym Mharc Ceir Coedlan yr Ymddiriedolaeth ar ffordd Llandysul-Capel Dewi. O`r Parc dilyn yn y ffordd heibior Faerdre Fawr, ymhen rhyw 200canllath cadw i`r dde wrth y fynegbost Llanfair, o hyn ymlaen ceir coedwig i`r chwith, a golwg hyfryd ar yr afon Teifi yn doleru`n araf ar y dde, heibio Lodge Llanfair a`i gerddi serth ac ymhen ychydig cyrraedd Fferm Llanfair ar y dde. Dilyn y ffordd yn awr drwy goedwig conifer ar y ddwy ochr. Gadael y ffordd hon a throi i`r chwith wrth y ‘Lodge’ . Mae`r ffordd yn codin raddol am ryw hanner milltir a Dyffryn Clettwr ar y dde.. Ar ol cyrraedd y gwastad bydd y llwybr yn cyfarfod a`r ffordd fawr Llandysul – Capel Dewi. Troi i`r chwith heibio fferm Penrhiw a i lawr i`r allt nes cyrraedd y lle parcio wrth droed y goedwig.

Taith Dolen y Teifi - map

Cliciwch yma i argraffu'r tudalen

Mae’r llwybr cerdded yma wedi cael ei chynhyrchu gan wirfoddolwyr o Grŵp Menter Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen, ac mae yn cynnwys llwybrau cerdded yn Llandysul a’r ardal gyfagos. Am fwy o lwybrau cerdded, gweler:

Cerdded i ben uchaf tref Llandysul
Taith Coedwig a trwy tir fferm

Mae’r llwybrau cerdded wedi ei chynhyrchu ar daflen “Llwybrau Cerdded Llandysul” gan Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen. Mae taflen debyg wedi ei chynhyrchu gan Cyngor Sir Caerfyrddin, ac mae hon yn cynnwys teithiau sydd yn cychwyn o Bont Tyweli. Gellir cael y taflenni yma o Swyddfa Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen. Am ragor o wybodaeth cysylltwch: info@llandysul-ponttyweli.co.uk

 

I ben y tudalen

Cau ffenestr