Hanes Llandysul
a Phont Tyweli
Sant Tysul a’i Eglwys
 |
Yr
hen eglwys hardd yw’r adeilad hynaf yn Llandysul yn dyddio
o’r 13eg ganrif, ond saif ar sylfeini hynafol
a enwyd ar ôl Sant Tysul am iddo eu sefydlu
yn y 6ed ganrif. Roedd Sant Tysul yn fab i Corun,
mab Ceredig, y rhoddodd ei enw i’r deyrnas,
sef Ceredigion heddiw.
Roedd gan Ceredig fab arall, Sant, tad ein Nawddsant,
Dewi Sant. Felly roedd Tysul a Dewi Sant yn gefndryd
cyfain.
Yn Festri’r Côr
ceir casgliad o gerrig arysgrifedig Cristnogol cynnar,
ac yn eu mysg ceir y Garreg Velvor yn coffáu
Velvoria, merch Brohomaglus. Mae’r garreg hon
ag arysgrif ddwyieithog, Lladin ac Ogam – iaith
Wyddelig hynafol, ac mae hyn yn dystiolaeth i boblogaeth
Wyddelig fod wedi ymsefydlu yma bryd hynny. |
| Sefydlwyd
ffeiriau a marchnadoedd gan Frenhinoedd Lloegr ac
arglwyddi’r gororau yn y cyfnod Edwardaidd,
a gipiodd y tiroedd hyn gan y rheolwyr brodorol o’r
12fed i’r 14eg ganrif. |
 |
Mam Owain
Glyndŵr
Dewiswyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru ym 1400 am i’w
dad, Gruffydd Fychan fod yn Dywysog ar Bowys, a’i
fam, Elen, fod yn Dywysoges y Deheubarth. Roedd Elen, ei
chwaer a’i dau frawd, yn ddisgynyddion uniongyrchol
Rhys ap Tewdwr, brenin olaf De Cymru gyfan. Dynion Llandysul
oedd y cyntaf i ymuno ag Owain mewn rhyfel ym 1400, ac
felly cymerodd Harri’r IV dir Owain Glyndŵr o amgylch
Llandysul oddi arno. Bu gwr Elen, Gruffydd Fychan, yn Arglwydd
ar Landysul pan fu farw brawd Elen, Owain ap Thomas ap
Llywelyn, a’i hewythr, Owain ap Llywelyn. Bu’r
dynion hyn yn noddwyr ar y cyd eglwys Llandysul ac roeddent
yn arfer cynnal llys yn y dref. Felly ceir rheswm da dros
gredu bod Llys Owain Glyndwr a’i hynafiaid ymysg
adeiladau hynaf Llandysul .
Dymchwel pont gan Frenhinwyr
Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr,
erbyn 1644 roedd y fyddin Frenhinol yn amddiffyn Ceredigion
yn erbyn y fyddin Seneddol,
a oedd wedi goresgyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Roedd
gan yr hen bont yn Llandysul dri bwa a thynnodd y Brenhinwyr
un ohonynt i lawr ar ochr Pont Tweli o’r afon er
mwyn atal y Seneddwyr rhag croesi i mewn i Geredigion.

Croesi`r afon Teifi yn yr unfed ganrif ar hugain, gan
ddefnyddio`r bont ar hyd y briffordd ac ar hyd y bompren.
Yr "Hen Galan" a’r "Pwnc"
O’r cyfnod cynharaf, dathlwyd Diwrnod Calan â gêm
o Cnapan (pêl-droed) a chwaraewyd rhwng pyrth eglwysi
Llanwenog a Llandysul sef y goliau. Roedd y gêm wedi
goroesi o hen ryfel, ac erbyn dechrau’r 19eg ganrif
roedd sawl person wedi cael ei ladd neu ei anafu yn chwarae’r
gêm. Pan newidiodd Calendr Gregori ddyddiad Calan
ym 1752, parhaodd pobl yr ardal i chwarae’r gêm
ar yr hen ddydd Calan – 12fed Ionawr. Nid oedd y
nifer a laddwyd ac anafwyd yn bwysig iawn iddynt, ond erbyn
1833 penderfynodd Ficer Llandysul nad oedd bellach yn briodol
i’r gêm gael ei chwarae rhwng y ddwy eglwys.
Sefydlodd gystadleuaeth ysgrythur rhwng y ddau blwyf lleol,
sy’n parhau hyd heddiw ar Ionawr 12fed.
William Thomas "Gwilym Marles" (1834-79)
| Roedd y meddyliwr
radical ac arweinydd Undodaidd hwn yn hanu o ardal
Brechfa, ac roedd yn un o hynafiaid Dylan Thomas. Roedd
Gwilym Marles hefyd yn fardd telynegol (cyhoeddwyd
1959) ac ysgrifennai’n eang ar bynciau eraill.
Wedi graddio o Brifysgol Glasgow, daeth yn weinidog
ar Lwynrhydowen. Mae’n enwocach yn Llandysul
am gefnogi’r ffermwyr-denantiaid anghydffurfiol
yn eu "Rhyfel y Degwm" yn Rhyd Owen. Sefydlodd
ysgol ramadeg yn Llandysul, yn y ty ar Fryn Seion,
sydd â phlac yn coffáu hynny heddiw. |
 |
Bu gan
Gwilym Marles ran blaenllaw yn etholiadau Seneddol y Rhyddfrydwyr
yn erbyn y landlordiaid Ceidwadol ac felly taflwyd ef a’i
gynulleidfa allan o’r capel ym 1876. Yn y diwedd fe
enillodd ac fe’i claddwyd yno.
Gwasg Gomer
Un o drysorau Llandysul yw
Gwasg Gomer, a sefydlwyd gan John David Lewis (1859-1914).
Dechreuodd weithio yn siop
groser ei dad, ond yn fuan datblygodd ei ddiddordeb mewn
llenyddiaeth a dechreuodd werthu llyfrau yng nghornel y
siop. Erbyn 1892, roedd wedi sefydlu’r wasg. Erbyn
1908 cafodd yr enw Gwasg Gomer ac yn awr dyma’r wasg
Gymraeg ei hiaith fwyaf yn y wlad. Mae gan Gomer hefyd
enw da fel cyhoeddwyr llyfrau Saesneg eu hiaith, a maent
yn gwerthu o’u siop yn Stryd y Gwynt. Symudodd y
wasg i adeilad newydd ar gyrion y dref yn 2004.
Click here to see their website.
Y Diwydiant Gwlân a Ffatrïoedd Crysau
Mae Dyffryn Teifi o amgylch
Llandysul yn gartref i ddiwydiant gwlân Cymreig. Gwnaeth agosrwydd lleiniau mawr o
ffriddoedd ar gyfer defaid a chynifer o nentydd dibynadwy
a chyflym eu llif, y gellid eu defnyddio i yrru melinau
dwr, y lle hwn yn le delfrydol ar gyfer datblygu cynhyrchu
gwlân. Mae nifer o felinau wedi goroesi yn yr ardal,
ond mae’r rheiny yn y dref wedi cael eu haddasu ar
gyfer defnyddiau eraill. Cafwyd hefyd ffatrïoedd crysau
gwlanen a oedd yn darparu gwaith yn y dref.
Nid yw Llandysul a Phont Tyweli
Ymlaen Cyf yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd
allanol.
I ben y tudalen
|