LLYFRGELL
LLANDYSUL
Canolfan Ceredigion
Llandysul
SA44 4QS
|
|
Amserlen
| Dydd Llun - Dydd Gwener |
10yb-1yh |
2yh-8yh |
| Dydd Mawrth |
10yb-1yh |
2yh-5yh |
| Dydd Mercher |
Ar Gau |
| Dydd Iau |
10yb-1yh |
2yh-5yh |
| Dydd Gwener |
10yb-1yh |
2yh-5yh |
| Dydd Sadwrn |
10yb-1yh |
Ar Gau |
Mae’r gwasanaeth sylfaenol yn
RHAD AC AM DDIM
Does dim tâl am fenthyca llyfrau. Wrth ymuno â’r Llyfrgell,
yr ydych yn ymrwymo i ddychwelyd y llyfrau a fenthycir o fewn cyfnod
o dair wythnos. Os oes problem Codwch y ffôn a rhowch wybod, neu
bydd raid inni godi dirwy.
LLYFRAU
(hyd at 8 llyfr ar y tro)
Di-dâl am 3 wythnos. Gellir (os nad oes rhywun arall wedi gwneud
cais am y llyfr) ei adnewyddu (hyd at 3 gwaith) am gyfnod ychwanegol
OND os nad adnewyddir y llyfr, codi dirwy:
Oedolion 8c y dydd hyd at uchafswm o £5
y llyfr.
Plant 3c y dydd hyd at uchafswm o £2 y llyfr.
MYNEDIAN I’R RHYNGRWYD AM DDIM YM MHOB CANGEN.
Yn ogystal â’r gwasanaeth sylfaenol, mae yna wasanaethau
ychwanegol y codir tâl amdanynt:
Fideo: I rai dros 18 oed.
Cyfnod benthyg 7 diwrnod.
£
1.60 y fideo (3 fideo ar y tro).
Pensiynwyr ac Anabl cofrestredig 80c.
Eitemau dros amser 30c y dydd.
DFD: I rai dros 18 oed.
Cyfnod benthyg 7 diwrnod
£2 y DFD (3 DFD ar y tro)
Pensiynwyr ac Anabl cofrestredig £1
Eitemau dros amser 30c y dydd.
CRYNO DDISGIAU a CHASETIAU
(Cyfnod benthyg 2 wythnos).
60c yr eitem (3 CDd a 3 gaset ar y tro).
Pensiynwyr ac Anabl cofrestredig 30c.
Eitemau dros amser 8c y dydd.
(3c y dydd i blant).
Llyfrau llafar am ddim i’r ddal cofrestredig.
Nid yw Llyfrgell Ceredigion yn derbyn cyfrifoldeb
am unrhyw nam i offer trydanol wrth chwarae’r fideos, casetiau
a chryno ddisgiau.
TÂL CEISIADAU
50c yr eitem llyfrau, fideos a chryno-ddisgiau.
LLUNGOPIO
A4 10c y copi
A3 20c y copi
Mae'r prisiau yn gywir i fis Ebrill 2006.
I ben y tudalen
|