Clwb Ceufadau Llandysul Mae’r afon Teifi yn adnodd naturiol pwysig, gan fod y dyfroedd yn eich galluogi i ganŵio drwy’r flwyddyn. Ceir geirw graddau 2 – 3 dros bellter o 1km yn nhref Llandysul. Mae gan Glwb Ceufadau Llandysul enw da am iddo ddatblygu athletau Slalom Cenedlaethol, hyfforddwyr a chyfleuster a ddefnyddir gan y gymuned. Cynhelir sesiynau hyfforddi rheolaidd ar yr afon, yn y pwll nofio ac yn lleol. Caiff y ganolfan ganŵio ei chydnabod fel canolfan ragoriaeth gan y corff llywodraethol – Cymdeithas Ganŵio Cymru. Cynhelir digwyddiadau pennu safle Slalom Cenedlaethol bob blwyddyn rhwng mis Mai a mis Hydref. Cynhelir Taith Flynyddol y Teifi bob mis. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gareth Bryant ar 01559 363209/362907 neu ar y ffôn symudol: 017900570440. Neu cliciwch yma am y Gwefan www.llandysul-paddlers.org.uk. Nid yw Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen Cyf yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol.
|