Cymdeithas Bysgota Llandysul

30 milltir o Eog, Brithyll a Physgota Brithyll Du ar Afon fwyaf Cynhyrchiol a Golygfaol Cymru

Cymdeithas Bysgota Llandysul

Sylfaenwyd yn 1948, mae Cymdeithas Bysgota Llandysul berchen dros 23 milltir o bysgota ar Afon Teifi ac yn rhentu saith milltir arall. Ceir nifer cyfyngedig o leoedd gwag bob blwyddyn, ac mae’r rhain ar gael i bysgotwyr cyfrifol o Gymru, mannau eraill yn y DU ac i rai o wledydd tymor ond yn amodol ar ‘Cyntaf i’r felin caiff falu’. Mae aelodaeth ar agor i bawb yn gyfartal ble bynnag mae’r bobl yn byw; yn arbennig, rydym yn ymdrechu i gynorthwyo pobl anabl a physgotwyr ifanc, ac mae ffioedd aelodaeth arbennig rhatach ar gael iddynt.
Mae trwyddedau ar gael i ymwelwyr trwy’r tymor, a hefyd nifer cyfyngedig o drwyddedau diwrnod hyd at ddiwedd Awst. Mae trefniadau arbennig ar gael i gynorthwyo pysgotwyr eiddil neu anabl i fwynhau’r lleoedd pysgota sydd yn hawdd mynd atynt ar Afon Teifi. Os hoffech ymuno â’n Cymdeithas neu i gael trwydded ymwelydd cysyllter â:

Chymdeithas Bysgota Llandysul,
Ystafell 101, Gwesty’r Porth, Llandysul, SA44 4QS, Cymru DU
Gwefan: www.fishing-in-wales.com/llandysul-aa

pysgod

I ben y tudalen

Cau Ffenestr