Ieuenctid Tysul Youth
Gwybodaeth Prosiect
Mae Ieuenctid Tysul Youth (ITY) yn fudiad ieuenctid gwirfoddol
ac yn elusen gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghanolfan Ieuenctid
Tysul, Llandysul. Sefydlwyd y mudiad yn 1995 yn dilyn gwerthusiad
cymunedol a amlygwyd diffyg darpariaeth i bobl ifanc yn ardal Llandysul.
Trawsffurfiwyd yr adeilad o Gapel Wesleaidd
Peniel i adeilad Canolfan Ieuenctid addas gyda chymorth ariannol
Cronfa Fawr y Loteri, Ymddiriedolaeth Tudur a Chyngor Sir Ceredigion.
Cymerodd y prosiect bedair blynedd i’w gwblhau ar gost o £261,000.
Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, mae
ein pwrpas wedi datblygu i ddarparu ystod eang o wasanaethau addysg
a chefnogaeth i bobl ifanc rhwng 10-25 oed. Prif ffocws ein gwaith
yw cefnogi pobl ifanc trwy’r
trawsnewid i oedolaeth – o fod yn ddibynnol i fod yn annibynnol.
Mae’r hyn rydym yn cynnig yn wasanaeth gwerthfawr i ran o
Gymru sydd â diffyg adnoddau. Rydym yn gweithio tuag at gwella
safon bywyd a’r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i bobl
ifanc.
Mae’r mudiad yn cael ei reoli gan bwyllgor ymroddedig o bobl
leol, gyda diddordebau gorau pobl ifanc yn sail i’w hymroddiad.
Rydym yn cyflogi chwe aelod o staff cymwysedig rhan-amser ac rydym
yn ddiolchgar iawn o gefnogaeth gwirfoddolwyr. Rydym yn darparu clwb
ieuenctid gyda’r nos, gwasanaeth galw heibio i bobl ifanc nad
ydynt yn yr ysgol, a gwasanaeth bws mini ‘casglu a gadael’ i’r
rhai hynny sydd yn byw yn y pentrefi cyfagos.
Mae ein gwaith yn troi o amgylch ddatblygiad
personol a chymdeithasol ac rydym yn cael ein harwain gan Cwricwlwm
Gwaith Ieuenctid Cymru. Rydym yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid Statudol ac yn
cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda grwpiau ieuenctid eraill, prosiectau
cymunedol lleol ac amgylcheddol a phrosiectau gwirfoddoli ymhellach
o’r gymuned leol. Caiff pobl ifanc eu hannog i gymryd rhan
ac i fod ynghlwm yn y broses o wneud penderfyniadau. Pan fo’n
bosibl, rydym yn darparu gwasanaeth dwyieithog ac mae’r bobl
ifanc yn siarad yn eu dewis iaith.
Rydym yn aelod o Gyngor Gweithredu
Gwirfoddol Cymru, Ieuenctid Cymru, CAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol
Ceredigion), Fforwm Mudiadau Ieuenctid Ceredigion a Llandysul & Phontweli
Ymlaen.
Am fwy o wybodaeth ar yr hyn rydm yn
cynnig, gwirfoddoli neu ymuno gyda’r Pwyllgor Rheoli, ffoniwch
y Ganolfan ar fore Dydd Mercher neu brynhawn dydd Iau.
Canolfan Ieuenctid Tysul
Lon Wesley . Llandysul . Ceredigion . SA44 4QJ
Ffôn & Ffacs:
01559 362908 / E-bost: admin@tysulyouth.co.uk
Rhif Elusen 1069259 |