Ieuenctid Tysul Youth logo
Ieuenctid Tysul Youth
Ionawr 2005
Cylchlythyr
 
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf ffoto

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf

Ym mis Mai cynhaliwyd cwrs hyfforddiant cymorth cyntaf llwyddiannus ar gyfer staff a phobl ifanc. Dywedodd Rheolwr y Ganolfan Steve Fawdry, “darparodd y cyfuniad o ddysgu ymarferol am gymorth cyntaf, gyda chyfnodau o senario ffug, cyfleodd real yn debyg i fywyd go iawn er mwyn dysgu. Roedd hwn yn gyfle gwych i staff a phobl ifanc i dreulio amser gyda’i gilydd yn dysgu. Ar ddiwedd y cwrs, roedd pawb yn falch pan ddywedodd Cath, ein tiwtor, fod pawb wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus”. (Jane, Gareth a Steve yn rhoi rhwymynnau ar Callum)

Gwirfoddolwraig Newydd

Hefyd ym mis Mai, ymunodd Fiona Beale â ni fel gweithwraig ieuenctid gwirfoddol ac aelod o’r pwyllgor. Wedi ei geni yn Derby, mynychodd Fiona Prifysgol Sheffield gan ennill BSc gydag anrhydedd mewn Rheolaeth Adloniant Cefn Gwlad. Symudodd i Gymru llynedd er mwyn bod gyda ffrindiau a threulio mwy o amser yn garddio, sef un o’i diddordebau. Mae ei diddordebau eraill yn cynnwys cerdded, chwaraeon anturus, diddanu a darllen. Dywedodd Fiona “Roeddwn am wneud rhywbeth gwerth chweil i bobl ifanc leol. Rwyf yn mwynhau gweithio gyda nhw ac eisiau eu gweld nhw’n llwyddo mewn bywyd.”

Gwirfoddolwraig Newydd - Fiona Beale

Rhaglen yr Haf

Ym mis Gorffennaf fe wnaethom westeya gr p o bobl ifanc o wlad Pwyl a oedd yn ymweld â Gorllewin Cymru ar daith gyfnewid a drefnwyd gan Gymdeithas Tai Hafan. Fe wnaethom eu tywys o amgylch y Ganolfan a’r dref a choginio barbeciw iddynt ym Mhlas-y-Dderwen.

chwaraeon eithafol - ffoto

Ar ddiwedd Gorffennaf, aethpwyd â grŵp i NASS (y sioe chwaraeon eithafol) ym maes sioe Caerfaddon a’r Gorllewin a gwersylla yno am 2 noson. Gwelodd pobl ifanc rhai o gystadleuwyr gorau’r byd yn perfformio a chawsont gyfle i roi cynnig ar sgrialu mynydd, sgrialu a llawer mwy. Cafwyd amser da gan bawb ac fe wnaethom ddychwelyd gyda grŵp blinedig ond hefyd bodlon o bobl ifanc.

Yn ystod gwyliau’r haf, fe wnaethom weithio ar y cyd gyda Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, i gynnal ystod eang o weithgareddau awyr agored gan gynnwys paint balling, rasio ceir gwyllt, beiciau quad, sgïo ar lethr sgïo a rafftio ar ddŵr gwyn.

Yn ogystal â bod yn llawn hwyl, bwriedir y rhaglen i adeiladu tîm a datblygu fforwm euenctid i bobl ifanc i roi llais iddynt fydd yn cael ei glywed ar lefel llywodraeth leol.

Sylw ar y Staff

Mae Steve Parkin (uwch swyddog ieuenctid) wedi gweithio i ITY am 3 blynedd. Yn wreiddiol o Ganada, symudodd Steve i Gei Newydd pan yn bump oed a mynychodd ysgol gynradd Llanarth ac wedyn Ysgol Gyfun Aberaeron. Aeth ymlaen i ennill Diploma mewn Technoleg Sain a pheirianneg stiwdio. Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, mae Steve yn dad ac mae ganddo bedwar o blant rhwng 2 a 15 oed. Fel siaradwr Cymraeg mae Steve wedi gweithio i nifer o brosiectau ieuenctid lleol ar ôl bod yn Warden i Gymdeithas Hostela Ieuenctid. Mae ganddo ddiddordeb mewn cerddoriaeth (chwarae a gwrando), mae ef wedi cyfleu ei ddiddordeb trwy hybu Troelli Disgiau a gweithdai cerdd trwy gyfrifiaduron yn y Ganolfan. Mae Steve yn dweud “Rwyf yn mwynhau fy swydd oherwydd mae’n fy ngalluogi i wneud effaith bositif ar fywydau pobl ifanc. Gallwn ddarparu cyfleoedd nad ydynt fel arfer yn gallu mynd atynt. Ar adegau, mae’n gallu bod yn llawn heriau, ond nid oes dim yn rhoi mwy o foddhad i mi na gweld pobl ifanc â gwen ar eu hwynebau.”
Steve Parkin
Dafydd, Aidan and Lee

Cyfarfod y Bobl Ifanc

Dyma Aidan (canol) 14 oed a’i ffrindiau Dafydd (chwith) a Lee (dde). Mae Aidan wedi bod yn dod i’r clwb ieuenctid ers deufis ac yn argymell dod gyda ffrindiau i ddechrau oherwydd mae’n teimlo’n well. “Mae’n le da i gyfarfod a threulio amser gyda ffrindiau,” dywedodd Aidan. “Rwyf yn hoffi mynd ar y We a chwarae pwl. Bûm gyda’r clwb ieuenctid i Theatr y Mwldan i weld fideo a wnaed gan bobl ifanc am beryglon cyffuriau ac alcohol. Mae’n eithaf brawychus i weld yr hyn gall cyffuriau ei wneud a gwnaeth y fideo i mi feddwl nad yw cyffuriau yn cwl. Rwyf yn ffrindiau gyda’r rhan fwyaf o staff y ganolfan ieuenctid. Mae’r staff yn eithaf cwl ac maent yna os ydych chi eu hangen nhw.” Mae Aidan yn hoffi D12 & Eminem.

Daeth Jake , 16 oed, i’r clwb ieuenctid am y tro cyntaf dair blynedd yn ôl tra’n mynychu Ysgol Dyffryn Teifi. Ar ôl cael ei ddiarddel o’r ysgol, dechreuodd Jake wneud defnydd o’r cyfleuster galw heibio yn y dydd. “Rwyf yn mwynhau mynd i’r ganolfan galw heibio oherwydd mae’n rhoi rhywbeth i mi ei wneud,” dywedodd Jake. “Rwyf yn hoffi chwarae pwl a sgwrsio gyda ffrindiau. Mae’r staff yn ein trin ni fel oedolion nid fel plant – maent yn cwl ac yn sbri.” Yn ddiweddar daeth person o Gyrfa Cymru i’n gweld a’m cynorthwyo gyda llunio CV a bu hyn o help mawr i wrth wneud cais llwyddiannus i ymuno â’r fyddin”. Hoff fand – Guns & Roses.

Jake
Katie

Mae Katie, yn 14 oed, ac yn mynychu Ysgol Gyfun Emlyn. Mae hi wedi bod yn dod i’r clwb ieuenctid ers dros flwyddyn gyda’i ffrindiau Sarah ac Abby. “Rwy’n credu bod y clwb yn hwyl” dywedodd Katie. “Mae’n le da i weld eich ffrindiau. Mae’r staff yn hyfryd ac yn gefnogol iawn. Bûm yn paintballing yn yr haf a chefais llawer o hwyl. Pe na bawn i’n mynd i’r clwb ieuenctid, mi fyddwn yn gwneud drygioni” dywedodd Katie. Hoff artist – Avril Levigne.

Trip i Theatr y Mwldan

Yn Hydref aethpwyd â grŵp o naw o bobl ifanc i Theatr y Mwldan i weld fideo addysgiadol am gyffuriau, alcohol ac ymddygiad anghymdeithasol sydd yn ymwneud â hyn. Roedd y fideo yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o grwpiau ieuenctid yng Ngheredigion, gan gynnwys Penparcau, Ieuenctid Tregaron a disgyblion o Ysgol Ceredigion. Dangosodd nifer o ffilmiau byrion effeithiau negyddol diflastod a deimlir gan nifer o bobl ifanc yn tyfu i fyny mewn ardaloedd gwledig. Er bod rhai wedi cael y ffilmiau yn eithaf syfrdanol, gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at addysg fwy cyflawn am yr hyn sydd yn brysur yn tyfu’n rhan fawr o ddiwylliant pobl ifanc.

Codi Arian

Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi bod yn llwyddiannus yn codi £12,000 o chwe ymddiriedolaeth i’n galluogi ni i ddodrefni’r Ganolfan. Hyd yn hyn rydym wedi prynu bwrdd tennis bwrdd newydd, rhewgell-rewgist, byrddau a chadeiriau, 3 chyfrifiadur, camera digidol, offer gwersylla, drymiau ail law, deciau record dwbl, seinchwyddwr, seinyddion, ystod o oleuadau a phel ddisgleirio yn gweithio oddi ar drydan.

Mae ein diolch diffuant yn mynd I Elusen Percy Bilton, Sefydliad Garfield Weston. Sefydliad Elusen Bernard Sunley, Sefydliad Hayward, Ymddiriedolaeth Dulverton a Sefydliad Rank.

Troelli disgiau ar yr offer newydd
Troelli disgiau ar yr offer newydd
Making PatchworksMaking Shoulder bags

Prosiectau Presennol

Mae grŵ p o ferched (ac ambell i fachgen) wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i wneud clytweithiau a fydd yn y diwedd yn cael eu gwnïo gyda’i gilydd i wneud llun lliwgar gyda logo ITY yn nodwedd ganolog. Mae’r marched hefyd wedi bod yn gwneud bagiau ysgwydd, felly gwyliwch Trinny a Susannah – rydym yn gwybod beth i wisgo.

Prosiectau sydd ar y Gweill

Mae digon wedi ei drefnu ar gyfer y gaeaf hefyd. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn ymgymryd â pheth gwaith adeiladu er mwyn llanw’r gwagle yn y llawr cyntaf. Bydd hyn yn cynyddu’r man llawr o’r prif ystafell lan llofft a fydd felly yn ein caniatáu ni i wneud gwell defnydd o’r lleoliad. Bydd goleuadau’r llawr isaf yn cael eu cynyddu er mwyn gwneud gwrth effaith i llai o olau naturiol fydd ar gael.

Fel rhan o’r trawsnewidiad lan llofft, bydd gan pobl ifanc gyfle i weithio ar ddau brosiect celf. Y cyntaf bydd i gynllunio ac adeildu nyth brain D.J. yn defnyddio polion sgaffold ac ystod o fetelau. Yr ail bydd ail greu y dirwedd lleol ar walau 15 troedfedd ac wedyn gosod eu hunaniaeth i wahanol rannau o’r dirwedd y maent yn gallu uniaethu iddo gan ddefnyddio celf graffiti.

Yn olaf, bydd pobl ifanc ynghlwm â chynllunio a chreu mosäig i fynd ar y bwrdd canolog y tu allan i’r Ganolfan. Unwaith y byddwn wedi casglu rhai syniadau cynllunio, byddwn wedyn yn gofyn am farnau ein cymdogion cyn dechrau. Mae’r prosiect hwn wedi cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth y Tywysog.

 

Gwybodaeth Prosiect

Mae Ieuenctid Tysul Youth (ITY) yn grŵp ieuenctid gwirfoddol yn Llandysul. Rydym wedi cyflwyno gwahanol wasanaethau addysg a chynhaliaeth bersonol a chymdeithasol i bobl ifanc rhwng 10-25 oed dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Ein canolfan yw hen Gapel wedi’i addasu, ac oddi yno fe ddarparwn ganolfan galw heibio ar ôl ysgol, clwb ieuenctid gyda’r nos (Nos Fercher & Nos Iau) a gwasanaeth bws mini casglu a gollwng.

Mae ein gwaith yn seiliedig ar y Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid i Gymru ac rydym yn ceisio gwella ansawdd bywyd pobl ifanc a’r dewis o gyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Er mwyn cael gwybod mwy am yr hyn rydyn ni’n ei gynnig, i wirfoddoli neu i ymuno â’r pwyllgor rheoli, cysylltwch â Steve Fawdry neu Steve Parkin.

Canolfan Ieuenctid Tysul, Lon Wesley, Llandysul.

Ffôn: 01559 362908 / E-bost admin@tysulyouth.co.uk

Cynnal pobl ifanc ar y daith at dyfu’n oedolion’

I ben y tudalen