Croeso i'r Safle We Llandysul a Phont Tyweli

 
white vertical line for space

Y Pwerdy Canolfan Celfyddydau

Yn wreiddiol roedd y Pwerdy ym Mhontyweli yn darparu trydan i Bont Tyweli a Llandysul. Erbyn heddiw mae’n Ganolfan Celfyddydau bywiog ble cynhelir cyrsiau paentio a chelf a chrefft.

Mae’r cyrsiau canlynol wedi eu trefnu gan Rhwydwaith Dysgu Sir Gaerfyrddin. Am wybodaeth bellach cysyllter â Mr. David Morgan ar 01239 712312.

Dydd Mawrth , 7yh-9yh "Cwrs Arlunio a Chrefftau"

Dydd Iau , 7yh-9yh Cwrs Arluno

Y Pwerdy Canolfan Celfyddydau

Mae band lleol Coda, yn defnyddio'r Pwerdy i ymarfer pob Nos Lun.

I llogi y Pwerdy, gellir cysylltu â'r Ysgrifennydd Penelope Clark: 01559 384849

Y Pwedy

Yn ystod Pencampwriaeth Canŵio Iau Prydain 2005, bu’r Pwerdy yn gwestio tair arddangosfa; lluniau gan y Grŵp Celf, casgliad o ffotograffau a gymerwyd yn ystod 2004 gan Ferched yr Ystafell Dywyll a chasgliad o ffotograffau o Landysul a Phont Tyweli yn ystod dechrau’r 20fed Ganrif ar fenthyg oddi wrth y Gymdeithas Hanes leol.

" Dymuna Pwyllgor Canolfan Celfyddydau Y Pwerdy/Power House ddiolch i bawb wnaeth alw heibio i weld yr arddangosfeydd dros benwythnos digwyddiadau Pencampwriaeth Canŵio Prydain. Gobeithiwn fod pawb wedi mwynhau'r te, coffi a chacennau cartref a gobeithiwn yn fawr y byddwn yn eich gweld chi gyd yn y dyfodol agos ar gyfer y digwyddiad nesaf. Diolch yn Fawr."

"Dymuna Pwyllgor Canolfan Celfyddydau Y Pwerdy/Power House ddiolch i Jewson Pont Tyweli am eu cyfraniad hael o wahanol eitemau er mwyn gwella, diogelu ac adfer yr adeilad a fu unwaith yn darparu trydan ar gyfer Llandysul a Phont Tyweli. Diolch yn Fawr."

Y Pwerdy

I ben y tudalen