ITY logo

Ieuenctid Tysul Youth

Gwybodaeth Prosiect

Mae Ieuenctid Tysul Youth (ITY) yn fudiad ieuenctid gwirfoddol ac yn elusen gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghanolfan Ieuenctid Tysul, Llandysul. Sefydlwyd y mudiad yn 1995 yn dilyn gwerthusiad cymunedol a amlygwyd diffyg darpariaeth i bobl ifanc yn ardal Llandysul.

Trawsffurfiwyd yr adeilad o Gapel Wesleaidd Peniel i adeilad Canolfan Ieuenctid addas gyda chymorth ariannol Cronfa Fawr y Loteri, Ymddiriedolaeth Tudur a Chyngor Sir Ceredigion. Cymerodd y prosiect bedair blynedd i’w gwblhau ar gost o £261,000.

Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, mae ein pwrpas wedi datblygu i ddarparu ystod eang o wasanaethau addysg a chefnogaeth i bobl ifanc rhwng 10-25 oed. Prif ffocws ein gwaith yw cefnogi pobl ifanc trwy’r trawsnewid i oedolaeth – o fod yn ddibynnol i fod yn annibynnol.

Mae’r hyn rydym yn cynnig yn wasanaeth gwerthfawr i ran o Gymru sydd â diffyg adnoddau. Rydym yn gweithio tuag at gwella safon bywyd a’r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc.

Mae’r mudiad yn cael ei reoli gan bwyllgor ymroddedig o bobl leol, gyda diddordebau gorau pobl ifanc yn sail i’w hymroddiad. Rydym yn cyflogi chwe aelod o staff cymwysedig rhan-amser ac rydym yn ddiolchgar iawn o gefnogaeth gwirfoddolwyr. Rydym yn darparu clwb ieuenctid gyda’r nos, gwasanaeth galw heibio i bobl ifanc nad ydynt yn yr ysgol, a gwasanaeth bws mini ‘casglu a gadael’ i’r rhai hynny sydd yn byw yn y pentrefi cyfagos.

Mae ein gwaith yn troi o amgylch ddatblygiad personol a chymdeithasol ac rydym yn cael ein harwain gan Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru. Rydym yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid Statudol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda grwpiau ieuenctid eraill, prosiectau cymunedol lleol ac amgylcheddol a phrosiectau gwirfoddoli ymhellach o’r gymuned leol. Caiff pobl ifanc eu hannog i gymryd rhan ac i fod ynghlwm yn y broses o wneud penderfyniadau. Pan fo’n bosibl, rydym yn darparu gwasanaeth dwyieithog ac mae’r bobl ifanc yn siarad yn eu dewis iaith.

Rydym yn aelod o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Ieuenctid Cymru, CAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion), Fforwm Mudiadau Ieuenctid Ceredigion a Llandysul & Phontweli Ymlaen.

Am fwy o wybodaeth ar yr hyn rydm yn cynnig, gwirfoddoli neu ymuno gyda’r Pwyllgor Rheoli, ffoniwch y Ganolfan ar fore Dydd Mercher neu brynhawn dydd Iau.

Canolfan Ieuenctid Tysul

Lon Wesley . Llandysul . Ceredigion . SA44 4QJ

Ffôn & Ffacs: 01559 362908 / E-bost: admin@tysulyouth.co.uk

Rhif Elusen 1069259

Cau'r Ffenest