English Version

Ieuenctid Tysul Youth logo
Ieuenctid Tysul Youth
Chwefror 2006
Cylchlythyr
 

Llwyddiant y Cylchlythyr Cyntaf

Yn dilyn yr adborth gwych ar ôl cyhoeddi’n cylchlythyr cyntaf, mae hi’n bleser datgan ein bod wedi penderfynu gwneud y cylchlythyr yn rhywbeth rheolaidd. Felly, unwaith eto, yr ydym wedi argraffu a dosbarthu mil pum cant o gopïau dwyieithog a fydd yn cael eu dosbarthu i dros 500 o gartrefi, 12 ysgol a 100 o bartneriaid, cyllidwyr a mudiadau ieuenctid eraill.

Os gwnaethoch dderbyn copi yn ddiofyn ac eich bod am dderbyn copi yn rheolaidd, ffoniwch y Ganolfan a byddwn yn rhoi eich enw ar y rhestr bostio. Neu gallwch ymweld ag www.llandysul-ponttyweli.co.uk er mwyn darllen y cylchlythyr ar-lein.

Gobeithiaf y byddwch yn mwynhau’r ail rifyn hwn sy’n llawn gwybodaeth, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi. Steve Fawdry, Rheolydd.

Ymddiriedolwraig Newydd

Symudodd Sue Lloyd, sy’n dod yn wreiddiol o Swydd Gaer, i Ruthin, Gogledd Cymru cyn ymgartrefu ym Mhenrhiwllan ddeng mlynedd ar hugain yn ôl gyda’i g ŵ r, John. Ers hynny mae Sue wedi magu dau fab a chwblhau gradd mewn

Dyniaethau ynghyd â T.A.R. Roedd Sue yn gwiltydd cyn iddi ddod yn weithwraig gofal cymdeithasol yn y sector gwirfoddol. Gyda’r cymwysterau newydd hyn datblygodd ei diddordeb i gynorthwyo pobl ifainc ac erbyn hyn mae hi’n gweithio i Ceredigion Training yn Aberystwyth fel ymgynghorydd hyfforddiant Skill Build. “Rwy’n mwynhau helpu pobl ifainc”, medd Sue, “ar ôl bod yn wirfoddolwraig ers sawl blwyddyn yr oeddwn am gymryd rhan yn lleol a helpu pobl ifainc mewn ardal lle roedd adnoddau’n brin. Rwy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm, ac mae bod ar bwyllgor rheoli’r clwb ieuenctid yn cynnig y cyfle hwn i mi”.

Sue Lloyd - new trustee

Concert

Cymdeithas Cerddorion

Mae grwp bach o bobl ifainc sydd yn gysylltiedig â’r Ganolfan wedi penderfynu sefydlu cymdeithas cerddorion gyda’r bwriad o hybu a chefnogi talent ifainc lleol. Rhoddwyd amcanion y gymdeithas ar waith llynedd pan drefnwyd cyngerdd yn

Neuadd Tysul a gyflwynodd pedwar band ifainc a phedwar D.J. Bu’r digwyddiad yn llwyddiant mawr a mynychodd dros 150 o bobl. Yn ystod y noson, cafodd y bobl ifainc brofiad o berfformio’n fyw mewn amgylchedd proffesiynol ac mae hi’n fwriad cynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Dathlu penblwydd yn 5 oed

Ym mis Mai y llynedd, dathlom ni ein pumed penblwydd ers symud i’r Ganolfan newydd. Gydol y diwrnod daeth pobl leol i ymuno â ni, ynghyd â phwysigion, ein partneriaid mewn gwaith ieuenctid a phobl ifainc, gan ddiweddu

gyda Tomo o Radio Ceredigion yn dadorchuddio’r mosäig newydd. Cafwyd arddangosfa gyhoeddus o luniau a oedd yn dangos ein gwaith, a gwnaeth pawb fwynhau gwylio’r Gêm Gwpan ar y teledu sgrîn llydan. Yr oedd Mark Folds, artist cyhoeddus, yno i helpu pobl leol dorri eu henw ar y wal graffiti i fyny’r grisiau ac i goroni’r diwrnod bu pawb yn mwynhau bwffe poeth a oedd yn cynnwys cacen penblwydd cartref, blasus. Bu llwyddiant ysgubol y diwrnod yn ffrwyth llafur ymroddiad a gwaith caled pawb a fu’n rhan o’r trefnu.

5th birthday celebration

Llwyddiant ‘Galw Heibio’ ar ôl Ysgol

Er mwyn ateb dymuniadau’r bobl ifainc, gwnaethom ymestyn yr oriau ‘galw heibio’ i gynnwys dydd Mercher a dydd Iau, a hynny yn gynnar y flwyddyn ddiwethaf. Bu’n llwyddiant yn syth, ac ar ôl hynny bu’n fodd o ddenu mwy o bobl ifainc i fewn i’r prosiect. Mae’r gwasanaeth ‘Galw Heibio’ yn agor am 4.00yh ar y ddau ddiwrnod gan barhau’n agored hyd at y clwb ieuenctid gyda’r hwyr. Cost bob sesiwn yw hanner can ceiniog.

 

Graffiti Mural Project

Y Prosiect Murlun Graffiti

Efallai mai’r prosiect mwyaf uchelgeisiol oedd trawsnewid y brif ystafell ar y llawr cyntaf. Gydol y flwyddyn bu Mark Folds yn gweithio gyda staff a phobl ifainc i greu llecyn llachar a chyffyrddus sy’n

adlewyrchu diwylliant modern pobl ifainc. Gyda’r celf graffiti disglair, yr offer a golau D.J. ynghyd â’r ardal llawr newydd a’r cynllun ffasiynol, mae ymdeimlad cyffyrddus iawn yn perthyn i’r llofft.

Cyllid Sports Lott

Mae cais llwyddiannus i Sports Lott am £700 wedi ein galluogi i ehangu ein rhaglen chwaraeon er mwyn cynnwys pêl-droed, criced a chymorth gyda hyfforddi a fydd yn cysylltu’n uniongyrchol gyda chlybiau’r dref. Yr ydym hefyd wedi prynu matiau gymnasteg i’w defnyddio yn y Ganolfan ac rydym yn gobeithio lansio rhaglen i hyrwyddo iechyd a ffitrwydd ynghyd â hunan amddiffyn i ferchced ifainc.

Dewch i gwrdd â’r bobl ifainc

 

Yn ddiweddar gwnaeth Allan, 13 oed, symud i Landysul o Gaerdydd. Mae’n byw gyda’i deulu maeth ac mae wrth ei fodd yn mynychu’r clwb ieuenctid. Bu Allan yn brysur yn creu bagiau lafant

i’w gwerthu ar ran BBC Plant Mewn Angen a ITY. “Mae’r clwb ieuenctid yn lot o sbort ac rwy’n mwynhau ymlacio yno. Os na byddwn i yma, mae’n si ŵ r y byddwn adre’n chwarae ar fy Game Cube. Gallaf siarad â Stevie P os oes problem gen i – mae e fel y banc!” medd Allan. Hefyd yn y llun mae Jane Turnbull, gweithwraig ieuenctid gyda pheiriant gwnïo 100 mlwydd oed ei mam-gu! Hoff artistiaid; Eminem, 50 Cent a Snoop Dog.

Meet the Young People
Meet the Young People

Mae Perdi ac Eleanor a Jade sy’n 12, 14 a 12 yn ôl eu trefn, wedi bod yn mynychu’r clwb ieuenctid ers tro, bellach. Daethant gyda’i gilydd y tro cyntaf gan bod modd iddo fod yn brofiad brawychus ar y dechrau. Mae Perdi’n mwynhau chwarae p ŵ l a thennis bwrdd ac ymlacio gyda’i ffrindiau. “Yn ddiweddar rwyf wedi bod yn paentio ar grysau T a gwneud gwaith graffiti ar y murlun i fyny’r llofft,” medd Perdi. “Mae’r staff yn gyfeillgar a chefnogol, ac os na byddai clwb ieuenctid ar gael i mi, mae’n si ŵ r y byddwn i adre’n gwylio’r teledu, yn tewhau ar siocled.” Hoff fandiau; Athlete a Cold Play.

Mae Eleanor yn mynychu’r clwb ieuenctid am ei fod yn fan cyfarfod da i gwrdd â ffrindiau. “Mae’n lot o hwyl ac rwy’n joio chwarae p ŵ l a thennis bwrdd a mynd i’r parc i chwarae rownders a chriced”, medd Eleanor. “Mae’r staff yn gyfeillgar ac mae’n hawdd siarad â nhw, yn enwedig Jade a Jane. Os na byddai’r clwb ieuenctid ar gael inni, byddwn yn treulio f’amser y tu allan”. Hoff fandiau; Athlete a Cold Play.

Mae Jade yn mwynhau defnyddio’r cyfrifiaduron ac mae’n mwynhau creu gwefannau syml. Mae’n chwarae p ŵ l ac yn helpu rhedeg y siop. “Rhoddais gynnig ar baentio ffenest, a oedd yn sbort. Allan o’r holl staff rwy’n hoffi Jade yn fawr. Mae’n rhwydd iawn siarad â hi ac mae ganddi synnwyr digrifwch arbennig”, medd Jade. Hoff fand; Green Day.

Mae Ben , 16 oed, wedi bod yn mynychu’r Clwb Ieuenctid ers pedair blynedd. Ben yw prif ganwr y band roc lleol, Cigars, sydd wedi perfformio mewn amryw leoliadau yn Nyfed a thros y ffin yn Lloegr. “Mae’r Ganolfan Ieuenctid yn lle grêt i gwrdd â’ch ffrindiau,” medd Ben. “Mae cerddoriaeth dda yno i wrando arni, ac rwy’n mwynhau chwarae p ŵ l a phori’r we. Mae’r staff yn gyfeillgar ac yn barod i helpu, ac os na byddwn yn dod yma byddwn naill ai’n loetran ar y strydoedd neu’n ddiflas adref”. Yn ddiweddar daeth Ben yn wirfoddolwr yn y Ganolfan ar nos Fercher ble mae’n gobeithio gallu rhannu ei sgiliau cerddorol ynghyd â helpu gyda’r rhai iau. Hoff fand, Rage Against the Machine.

Meet the young people
Mark Folds

Celf yn y Parc

Yr ydym ar hyn o bryd yn cynnal astudiaeth dichonolrwydd yn y gobaith o wella’r maes chwarae cyhoeddus yn y parc. Pobl ifainc y ganolfan fydd yn ymgymryd â’r prosiect ‘Celf yn y Parc’, rhai sydd am gyfrannu’n gadarnhaol i’w cymuned.

" Rwy’n ystyried y gair ‘Celf’ yn ferf, ynghylch gwneud pethau. Bydd y prosiect hwn yn galluogi ieuenctid

Llandysul ‘i wneud’ cryn dipyn i wella eu hamgylchedd gweledol hwy ynghyd â’n un ni”, medd Mark Folds (llun), Artist Cyhoeddus sy’n arwain y prosiect. Bydd y gwelliannau ar ffurf paneli a fydd yn cynnwys cerfluniau a cherfiadau pren a byddant wedi eu gosod ar y ffens sydd yno ar hyn o bryd. Mae hi’n obaith hefyd gwella seddau a chlwydi’r maes chwarae mewn modd creadigol. Dechreuwyd ar gyfnod o wyth wythnos o waith dylunio ar ddechrau Rhagfyr 2005 ac yn dilyn hyn bydd arddangosfa cyhoeddus i arddangos y dyluniadau drafft terfynol, ynghyd ag ymgynghoriad gyda’r gymuned. Ynghyd â rhoi teimlad cadarnhaol i’r rhai hynny sy’n defnyddio’r maes chwarae, gobeithir y bydd y prosiect yn cyfoethogi a chynnal diwylliant Llandysul gan hyrwyddo ei phwysigrwydd a’i hunaniaeth. Ariennir y prosiect yn hynaws gan y Princes Trust.

Prosiectau’r dyfodol

Yr ydym yn aros i glywed ynghylch dau gais am arian grant, ac os byddwn yn llwyddiannus byddwn yn adeiladu cypyrddau storio yr ydym wedi eu hangen ers cryn amser, a bwth D.J. ar gyfer dal desg sain, ampau, seinyddion a recordiau.

Hefyd, yr ydym yn gobeithio cychwyn ‘Prosiect Croeso’, sef prosiect celf graffiti chwaethus a fydd ar wal gefn y brif ystafell ar y llawr gwaelod. Yn ganolog i hyn bydd y gair ‘croeso’ ac yn cwmpasu’r gair bydd ei gyfwerth mewn sawl iaith a symbol arall, gan gynnwys Makaton ac arwyddiaith. Y bwriad yw cynnig croeso bywiog a chynnes wrth i bobl gerdded drwy’r drws ynghyd â rhoi’r cyfle i bobl ifainc fod yn rhan o brosiect celf gwerthfawr arall.

 

Gwybodaeth am y Prosiect

Mae Ieuenctid Tysul Youth (ITY) yn brosiect ieuenctid gwirfoddol ac elusen gofrestredig yn Llandysul. Yr ydym wedi darparu ystod o addysg bersonol a chymdeithasol a gwasanaethau cefnogi i bobl ifainc rhwng 10-25 oed dros y naw mlynedd diwethaf.

Capel wedi ei drawsnewid yw’n canolfan, ac o’r lle hwnnw yr ydym yn darparu gwasanaeth ‘Galw Heibio’ ar ôl ysgol, clwb ieuenctid gyda’r hwyr a gwasanaeth casglu a dychwelyd drwy fws mini.

Mae ein gwaith yn dilyn patrwm Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ac ein bwriad yw gwella ansawdd bywyd ynghyd â’r ystod o gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifainc.

Am fwy o wybodaeth ar ein gwasanaeth neu os ydych am wirfoddoli, cysylltwch â Steve Fawdry neu Steve Parkin.

CanolfanTysul Youth, Lôn Wesley, Llandysul , SA44 4QJ

Ffôn: 01559 362908 / E-bost admin@tysulyouth.co.uk

ITY - ‘Yn cefnogi pobl ifainc wrth iddynt bontio i oedolaeth.’

I ben y tudalen neu Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Ieuenctid Tysul Youth (ITY)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

I ben y tudalen